Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cofrestrwch ar gyfer y Fforwm Landlordiaid Lleol

Published: 04/03/2022

nrla-logo.pngMae Cyngor Sir y Fflint mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl Cenedlaethol (NRLA) yn cynnal fforwm landlordiaid ddydd Iau 24 Mawrth 2022.

Bydd y fforwm yn digwydd dros Zoom rhwng 6pm a 7.15pm.

Gyda’r holl newidiadau fydd yn digwydd yn y Sector Rhentu Preifat yng Nghymru’r haf yma, mae’n hollbwysig bod POB landlord preifat yn ymwybodol o’r newidiadau arwyddocaol hyn a fydd yn effeithio ar landlordiaid, asiantau a thenantiaid. 

Cofrestrwch yma os gwelwch yn dda: https://www.nrla.org.uk/events/meetings/4920.  Gall aelodau’r NRLA gadw lle yn uniongyrchol drwy eu cyfrif.

Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch: Landlord.Support@flintshire.gov.uk.

Agenda 

• DIWEDDARIAD pwysig ar newidiadau i Ddeddf Rhentu Tai (Cymru) 2016 sy'n effeithio ar landlordiaid.

• Diweddariad Llywodraeth Cymru

• Diweddariad ar adfeddiannu

• Safonau Gofynnol Effeithlonrwydd Ynni

• Diweddariad gan Dîm Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint

• Diweddariad gan Dîm Tai Sir y Fflint ar y gefnogaeth sydd ar gael i landlordiaid a thenantiaid.

Os hoffech wybod mwy am y fforwm landlordiaid hwn neu anfon cwestiwn i mewn ar unrhyw un o’r pynciau perthnasol, anfonwch e-bost at: Landlord.Support@flintshire.gov.uk