Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Published: 08/03/2022

International Women's Day (1 of 2) small.jpgMae Cyngor Sir y Fflint yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni drwy ddathlu gyda’u cynghorwyr sy’n ferched.

Yng Nghymru, dim ond 28% o gynghorwyr lleol sy’n ferched, yn dilyn yr etholiadau lleol diwethaf yn 2017. (Source https://commonslibrary.parliament.uk/research-briefings/sn01250/). Nid yw dynion a merched yn cael eu cynrychioli'n gyfartal mewn dim un o awdurdodau lleol Cymru. Yn amlach na pheidio, merched yw 20% i 30% o’r aelodau ac weithiau llai. Yn Sir y Fflint, mae gennym 17 o ferched yn gynghorwyr ar hyn o bryd allan o 70, sydd ychydig dros 24%.  

Y ddelwedd gyffredinol o lywodraeth leol yng Nghymru yw o ddynion gwyn dros 60 oed.  Nid oes dim un cyngor yng Nghymru erioed wedi cyflawni cydraddoldeb o ran rhyw. Yn Sir y Fflint, mae’r sefyllfa yn well na chynghorau eraill, ond mae arnom eisiau annog mwy o ferched i ddod yn gynghorwyr yn yr etholiadau lleol nesaf ym mis Mai.

Meddai Swyddog Canlyniadau Sir y Fflint, Neal Cockerton:

“Gall syniadau a brwdfrydedd pob cynghorydd newydd wella a chryfhau ein Cyngor.  Mae pob cynghorydd yn cael cefnogaeth gan y Cyngor.  Mae gennym raglen gyflwyno i aelodau newydd i ddangos i chi ble a phwy yw pawb, ac yna rhaglen gynefino i ddilyn i’ch helpu chi ddeall y rôl, gweithdrefnau’r cyngor a’r sgiliau ymarferol fydd arnoch eu hangen.  

“Yn ogystal â chael cyflog sylfaenol, rydym yn cynnig cefnogaeth ychwanegol os oes gennych deulu ifanc neu gyfrifoldebau gofalu - yn cynnwys cefnogaeth ariannol ychwanegol a threfniadau gweithio hyblyg”

I gael mwy o wybodaeth, ewch i https://www.byddwchyngynghorydd.cymru/ i wybod mwy am fod yn gynghorydd a chlywed gan bobl sy’n gynghorwyr yn barod - pobl gyffredin yn gwneud pethau anghyffredin.