Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Prosiect ysgolion Cyngor Sir y Fflint yn gobeithio hyrwyddo'r defnydd o’r Gymraeg yn yr awyr agored 

Published: 10/03/2022

Mae prosiect peilot dan arweiniad Cyngor Sir y Fflint yn canolbwyntio ar hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg yn yr awyr agored.

Gan weithio mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a'r Urdd, bydd hyfforddiant a gweithgareddau yn cael eu darparu ar gyfer ysgolion cynradd ail iaith yn Sir y Fflint i annog mwy o ddefnydd o'r Gymraeg wrth ddysgu yn yr awyr agored.

Mae Cyngor Sir y Fflint eisoes wedi cyflwyno menter i ddarparu hyfforddiant a chymorth i athrawon ac ymarferwyr ysgolion er mwyn iddynt allu cynyddu'r amser a dreulir yn dysgu yn yr amgylchedd naturiol, amdano ac ar ei gyfer.

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, sef Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet dros Addysg ac Ieuenctid:

"Mae hon yn fenter wych a bydd y cyfleoedd dysgu yn yr awyr agored yn cynnig cyfle i'n myfyrwyr ddefnyddio eu sgiliau iaith wrth gael hwyl yn yr awyr iach.  Mae gan Sir y Fflint ymrwymiad cryf i'r Gymraeg ac rydym yn cefnogi myfyrwyr i wella eu sgiliau Cymraeg ac am roi'r hyder iddynt ddefnyddio'r iaith yn eu bywydau bob dydd."

Mae wyth ysgol gynradd yn cymryd rhan yng ngham peilot y prosiect. Roedd hyn yn cynnwys diwrnod o hyfforddiant dysgu yn yr awyr agored i athrawon a ddarparwyd gan CNC ym Mharc Treftadaeth Amgueddfa Dyffryn Maes Glas, Treffynnon ddoe (9 Mawrth).

Dywedodd Sue Williams, Arweinydd Tîm Iechyd, Addysg ac Adnoddau Naturiol CNC: "Yr amgylchedd naturiol yw'r lleoliad perffaith i hyrwyddo dysgu, deall a siarad Cymraeg fel ail iaith.

"Mae'n darparu amgylchedd hamddenol, difyr a chyffrous sydd bob amser yn darparu rhywbeth newydd i'w archwilio a'i ddarganfod. Mae'n cynnig amgylchedd dysgu gwahanol i'r ystafell ddosbarth sy’n gallu helpu i roi profiadau gwahanol i blant i gefnogi cynnydd ym maes iaith a llythrennedd.

"Mae Llywodraeth Cymru yn argymell dysgu yn yr awyr agored fel dull allweddol o gyflwyno'r Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae ei fanteision sylweddol o ran iechyd a lles hefyd yn hysbys i bawb. Mae cyfle gwirioneddol i ymgorffori’r broses o ddysgu iaith yn yr awyr agored wrth i ysgolion roi’r Cwricwlwm newydd ar waith."

Yn dilyn yr hyfforddiant i athrawon dan arweiniad CNC ddechrau mis Mawrth, cynhelir diwrnod o weithgareddau awyr agored drwy gyfrwng y Gymraeg gan yr Urdd ym mhob ysgol sy'n cymryd rhan.

Dywedodd Sion Lloyd, Uwch Swyddog yr Urdd - Gwasanaeth Gweithgareddau Awyr Agored: "Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o brosiect mor arloesol a chyffrous. Mae ein sesiynau Dysgu y Tu Allan i'r Ystafell Ddosbarth yn canolbwyntio ar Iechyd a Lles disgyblion, gan hefyd ymgorffori'r defnydd o batrymau Cymreig a Chymraeg.

"Mae ein hyfforddwyr yn darparu amrywiaeth o weithgareddau, lle gall athrawon a chynorthwywyr addysgu arsylwi a gofyn cwestiynau. Mae hyn yn helpu i fagu hyder staff yr ysgol i gyflwyno'r gweithgareddau'n annibynnol, a fydd, gobeithio, yn helpu i ddatblygu Dysgu yn yr Awyr Agored fel rhan o amserlen a chwricwlwm yr ysgol yn y dyfodol."

Yr ysgolion sy'n cymryd rhan yw: Ysgol Gynradd Lixwm; Ysgol yr Esgob, Caerwys; Ysgol Gynradd Brynffordd; Ysgol Gatholig Dewi Sant, yr Wyddgrug; Ysgol V.A. Trelawnyd; Ysgol y Llan, Chwitffordd; Ysgol Gynradd Gatholig Sant Anthony, Saltney; Ysgol y Foel, Cilcain.

Mae rhagor o wybodaeth am fanteision lluosog dysgu yn yr awyr agored ar gael yma.

Greenfield Valley Welsh Lessons (3 of 17).jpg    

 

Greenfield Valley Welsh Lessons (8 of 17).jpg

 

Greenfield Valley Welsh Lessons (9 of 17).jpg Greenfield Valley Welsh Lessons (17 of 17).jpg