Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Monitro Chwarter Tri

Published: 10/03/2017

Bydd Aelodau Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn derbyn diweddariad ar gynnydd Cynllun Gwellar Cyngor 2016/17 pan fyddant yn cyfarfod ddydd Mawrth, 14 Mawrth. Maer Cyngor yn amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer gwelliant bob blwyddyn yn y Cynllun Gwella, gan weithio ar dargedau cyffredinol i ddatblygu gwasanaethau a safonau byw ledled y Sir. Maer adroddiad monitro a gyflwynir ddydd Mawrth yn darparu diweddariad ar gynnydd yn ystod chwarter tri 2016/17 o fis Hydref tan fis Rhagfyr 2016. Mae Sir y Fflint yn Gyngor syn perfformion dda fel y nodwyd yn yr adroddiadau monitro eraill ar gyfer y Cynllun Gwella ac adroddiadau Perfformiad Blynyddol y Cyngor yn y blynyddoedd a fu. Mae adroddiad monitror trydydd chwarter ar gyfer 2016/17 yn adroddiad cadarnhaol arall gyda 95% or camau a gytunwyd wediu hasesu fel rhai syn cyflawni cynnydd da a 58% yn debygol o gyflawnir canlyniad a ddymunir. Yn ogystal â hyn, mae 72% or dangosyddion perfformiad wediu diwallu neu wedi rhagori ar y targed ar gyfer y chwarter. Maer risgiau yn cael eu rheolin llwyddiannus gydar mwyafrif wediu hasesu fel cymedrol (55%) neu fach/ansylweddol (34%). Maer uchafbwyntiau a gyflawnwyd yn y flwyddyn ariannol hon hyd yn hyn yn cynnwys: o Gwaith adeiladu 12 o dai cyngor newydd, y rhai cyntaf mewn cenhedlaeth, yn safle Custom House yng Nghei Connah wedii gwblhau ym mis Rhagfyr. Dechreuodd y gwaith adeiladu yn safle The Walks yn y Fflint ym mis Awst 2016 o flaen y rhaglen a gynlluniwyd a bydd yn darparu 92 o dai cyngor a thai fforddiadwy ychwanegol. o Maer gwaith i uwchraddio tai syn eiddo ir Cyngor gryn dipyn o flaen y targed ar gyfer cwblhau ceginau, ystafelloedd ymolchi newydd a gosod synhwyrydd mwg. o 53% or ymholiadau tai wediu rheoli ar y pwynt cyswllt cyntaf, gan ganiatáu i dimau arbenigol ganolbwyntio ar yr achosion cymhleth a brys. o Sir y Fflint syn Gyfeillgar i Ddementia: mae 14 darparwr cartref gofal a 7 darparwr gweithgareddau yn defnyddior dudalen Facebook i hyrwyddo gweithgareddau sydd ar gael ar gyfer preswylwyr cartref gofal. Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo mewn ysgolion; daeth disgyblion ac athrawon mewn un ysgol uwchradd ac un ysgol gynradd yn gyfeillion dementia a mynychodd y disgyblion gaffis atgofion yn Sealand a Fflint i gymryd rhan mewn sesiwn ar y cyd or Stori Ddiddiwedd. o Derbyniwyd 23 o ymholiadau newydd mewn perthynas âr buddsoddiad newydd ar estyniad busnes presennol, a fydd yn arwain at greu swyddi. Or 23 ymholiad busnes a dderbyniwyd, trawsnewidiodd 18 yn fuddsoddiad yn ystod chwarter 3 gan arwain at gyfradd trawsnewid o 78% a chyfanswm cyfunol 16/17 o 998 o swyddi newydd. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Drwy ein Cynllun Gwella, rydym yn blaenoriaethu ardaloedd a gwasanaethau sy’n bwysig i’n cymuned an preswylwyr ac yn mesur pa mor dda yr ydym yn cyflawnir gwaith. Mae Cyngor Sir y Fflint yn parhau i fod yn uchelgeisiol ac yn arloesol i ddarparu ein blaenoriaethau syn cynnwys, cynorthwyo pobl gyda mynediad at dai fforddiadwy addas, addysg o ansawdd, hyfforddiant a chyflogaeth. Dywedodd Colin Everett, Prif Weithredwr y Cyngor: Mae perfformiad yn erbyn ein blaenoriaethau yn dystiolaeth dda o ba mor dda y maer Cyngor yn cyflawnir pethau sydd bwysicaf in cymunedau. Drwy fonitro Cynllun Gwellar Cyngor ar wahanol gamau yn ystod y flwyddyn, gallwn asesu a ydym am ddiwallur targedau a osodwyd i wella gwasanaethau ar gyfer preswylwyr a chanolbwyntio ein hegni ar flaenoriaethau lleol.