Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Yr Wyddgrug i gynnal peilot Cyllid SMART newydd

Published: 21/03/2022

Mae Cyngor Sir y Fflint yn lansio cynllun SMART newydd yn Yr Wyddgrug. 

Mae’r Cyngor Tref a manwerthwyr lleol yn edrych ymlaen at elwa ar fuddion synwyryddion nifer yr ymwelwyr newydd fydd yn ategu at ac yn uwchraddio’r rhai statig presennol, sydd wedi cael eu defnyddio ers nifer o flynyddoedd.  

Bydd y dref hefyd yn elwa ar dechnoleg ddiweddaraf, fydd yn darparu mwy o wybodaeth ddiweddaraf, i helpu i gynllunio digwyddiadau ac ehangu’r cynnig i ymwelwyr a siopwyr.  

Mae tref SMART yn dref sy’n defnyddio offer digidol i gynnig gwasanaethau a data i wneud eu tref yn fwy effeithlon a gwella gwasanaethau a gweithrediadau yn y dref. 

Nid yn unig y bydd y cownteri nifer yr ymwelwyr digidol newydd yn darparu’r data diweddaraf, ond mae’r cyllid yn golygu y gall gynnwys mwy o ganol y dref.    

Dywedodd Joanna Douglass, Swyddog Busnes ac Adfywio Canol Tref Yr Wyddgrug: 

“Mae’r Wyddgrug wedi wynebu ychydig o flynyddoedd heriol iawn ac mae manwerthwyr wedi gorfod addasu a chynnwys technoleg yn fwy nag erioed o’r blaen.    I wybod y bydd gan Yr Wyddgrug y dechnoleg ddiweddaraf ar waith, fel tref peilot Tref SMART, rydym yn edrych ymlaen at fanwerthwyr a’r Cyngor Tref yn cael budd o hyn.  Gwybod y bydd ein dyddiau ac amseroedd prysuraf yn cynorthwyo i gynllunio’r ffordd orau i ddenu mwy o ymwelwyr a siopwyr wrth symud ymlaen.”

Mae Richard Howells, Perchennog Busnes ‘The Olive Tree’, Yr Wyddgrug wedi bod yn ‘Gefnogwr Busnes’ y prosiect ac mae’n edrych ymlaen at allu manteisio ar y pecyn digidol newydd.    Dywedodd Richard: 

“Mae’r math hwn o dechnoleg yn cyflwyno posibiliadau mawr i ddeall y nifer o ymwelwyr a’r traffig gwirioneddol a chymharu’r data.   Bydd cael y dechnoleg ar waith yn yr wythnosau nesaf yn gadarnhaol iawn i’r dref.”

Ar ôl casglu’r data, bydd yn adnodd hygyrch ac ar gael i holl fusnesau i’w galluogi i gyd fanteisio.  Mae holl fusnesau yn Yr Wyddgrug yn cael eu hannog i fanteisio arno.  

Yn dilyn y peilot hwn, bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno i drefi eraill yn y Sir. 

I wylio’r ffilm fer o’r astudiaeth achos gan Menter Mon, cliciwch yma: https://youtu.be/Lbe81kqxYkk