Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Newidiadau i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Sir y Fflint 

Published: 30/03/2022

O 4 Ebrill, bydd newidiadau’n cael eu cyflwyno yng Nghanolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Sir y Fflint.  

Byddwn yn cyflwyno system archebu ar gyfer deunyddiau anodd a gwastraff peryglus (asbestos a matresi) ac yn diwygio ein meini prawf trwyddedau cerbydau ar gyfer rhai mathau o gerbydau.

Rydym yn gwneud hyn i sicrhau diogelwch parhaus ein staff a’n trigolion ac i sicrhau bod digon o le yn y sgipiau ym mhob safle. Mae ein canolfannau ailgylchu i breswylwyr Sir y Fflint i gael gwared ar eu hailgylchu a gwastraff o’r cartref yn unig. Rydym wedi cyflwyno’r newidiadau i’r system drwyddedau i sicrhau nad yw busnesau yn defnyddio’r canolfannau ailgylchu yn anghyfreithlon i gael gwared â gwastraff masnachol. 

Mae’r prif newidiadau wedi eu rhestru isod:

  • Bydd mesurau’n cael eu cyflwyno wrth y mynedfeydd i reoli mynediad yn well i’r canolfannau ailgylchu, rheoli llif y traffig yn ddiogel ac atal cerbydau diawdurdod rhag dod i’r safleoedd. 
  • Bydd bob trelar (o fewn y cyfyngiadau maint a ganiateir) angen trwydded i gael mynediad.
  • Bydd trwyddedau a gyflwynir ar gyfer safle penodol yn lleol i gyfeiriad yr ymgeisydd.
  • Bydd angen trefnu o flaen llawn ar gyfer matresi ac asbestos i sicrhau bod digon o le yn y cynhwysydd pan fo trigolion yn cyrraedd.
  • Ni fydd trelars yn cael mynediad os ydynt yn cael eu tynnu gan gerbyd sydd angen trwydded.
  • Bydd trwydded untro ar gael ar-lein trwy e-ffurflen i’r cerbydau hynny sydd wedi eu cofrestru i fusnes i gael mynediad i ddosbarthu gwastraff os yw’n glir nad yw’r gwastraff wedi ei gynhyrchu gan y cwmni neu o ganlyniad i weithgareddau’r busnes hwnnw (er enghraifft, caniatáu i gerbyd a gofrestrwyd i blymwr i gael gwared â gwastraff gardd).  Rhaid cymeradwyo’r drwydded untro cyn yr ymweliad. 

Mae cerbydau a fydd angen gwneud cais am drwydded 12 mis wedi eu crynhoi isod:

  • Pob trelar (un echel a dwy echel) a hyd y trelar wedi ei gyfyngu i 6 troedfedd (1.83 metr) 
  • Pic-yps (bob model)
  • Fan sy'n deillio o geir
  • Fan fach
  • Fan ganolig (to safonol neu isel yn is na 7 troedfedd (2.14 metr)
  • Bws mini (gyda gosodiadau mewnol yn gyflawn)
  • Faniau gwersylla a chartrefi modur (gyda gosodiadau mewnol yn gyflawn ac yn is na 7 troedfedd (2.14 metr)

Gellir archebu lle yn awr ar gyfer asbestos a matresi ar gyfer unrhyw eitemau sydd angen eu gwaredu o 4 Ebrill 2022.  Rhaid archebu lle 48 awr o flaen llaw. Bydd cyfyngiadau o ran nifer o weithiau y gellir archebu lle bob blwyddyn a nifer yr eitemau y gellir eu gwaredu ar yr un pryd.  

I gael mwy o wybodaeth am sut i wneud cais am drwydded, mae mwy o fanylion ynghylch pa gerbydau sy’n gymwys, neu mwy o wybodaeth am y system archebu ewch i: Canolfannau Ailgylchu Cartref

Os ydych yn cael trafferth gweld y wybodaeth ar-lein, anfonwch e-bost at streetsceneadmin@flintshire.gov.uk neu ffoniwch 01352 701234 i gael cymorth a chyngor.