Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Clodfori gweithio mewn partneriaeth â darparwyr gofal cymdeithasol

Published: 07/04/2022

Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint yn falch o’r berthynas a ddatblygwyd â darparwyr gwasanaethau gofal a chymorth, sydd mor bwysig ag erioed yn sgil y pandemig. 

Y peth allweddol wrth greu partneriaethau llwyddiannus yw ein gallu i gronni ein harbenigedd a rhannu ein hadnoddau, a gweithio’n galed i gyflawni buddion gwerth chweil. 

Gweler isod rai o’r rhaglenni y mae’r Cyngor wedi’u cefnogi.

Mae ein darparwyr lleol wedi elwa’n fawr ar y cyflenwad effeithiol o Gyfarpar Diogelu Personol. Penderfynwyd ddechrau’r pandemig mai  Gwasanaeth Offer Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru yn bennaf a fyddai’n dosbarthu cyflenwad Llywodraeth Cymru o gyfarpar diogelu personol yng ngogledd ddwyrain Cymru. Mae’n werth gweld faint o gyfarpar rydym wedi’i archebu a’i ddosbarthu yn ystod y pandemig:

• Tua 3.5 miliwn o ffedogau

• Tua 8.2 miliwn o fenig

• Tua 4.2 miliwn o fygydau

• Tua 81,000 o fisorau

Drwy’r Rhaglen Cynnydd i Ddarparwyr rydym yn dal i ariannu darparwyr a chydweithio â hwy er mwyn datblygu arferion hyd yn oed yn well wrth ganolbwyntio ar yr unigolion.  Rhaglen achredu yw hon sy’n rhoi’r arfau, y wybodaeth a’r sgiliau i ddarparwyr fedru cyflawni canlyniadau gwell i bobl. 

Mae Sir y Fflint hefyd yn cydnabod yr heriau y mae darparwyr gofal yn eu hwynebu gydol y sector, ac yn gweithio’n greadigol â phartneriaid wrth ddarparu gofal mewn ffyrdd dyfeisgar i drigolion y sir.  Mae hyn yn arbennig o wir wrth ofalu am y bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau anableddau dysgu, fel y rhai a ddarperir gan yr elusen Hft.  

Meddai Cyfarwyddwr Rhanbarthol Hft, Andrew Horner:

“Rydym wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau cymdeithasol Sir y Fflint ers mwy na phum mlynedd gan gynnig cyfleoedd am wasanaethau dydd a chyflogaeth â chymorth  ledled y sir. Mae’r berthynas waith agos yn golygu ein bod wedi gallu cyflwyno datblygiadau blaengar yn y gwasanaeth gan greu cyfleoedd cyffrous a chyflawni canlyniadau syfrdanol i’r bobl yr ydym yn eu cefnogi.

“Gallaf ddweud yn bendant bod ein partneriaeth yn mynd o nerth i nerth. Mae Sir y Fflint yn gyngor arbennig o gefnogol sydd bob amser yn ymateb i syniadau newydd a ffyrdd newydd o weithio, ac mae hynny’n golygu mai pobl ag anableddau dysgu yw canolbwynt ein partneriaeth.”  

Wrth ymateb i’r heriau parhaus o geisio recriwtio gweithwyr gydol y sector, cynhaliodd y Cyngor ffair swyddi ym maes gofal cymdeithasol. Rhoes hynny lwyfan i ddarparwyr lleol hyrwyddo eu swyddi gwag a rhwydweithio ag eraill.  Bu modd inni hefyd gynnig hyfforddiant am ddim i ddarparwyr mewn Recriwtio ar sail Gwerthoedd, sy’n ddull poblogaidd ac effeithiol o benodi staff ar sail eu gwerthoedd hyn hytrach na’u cymwysterau.