Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gweithio gyda darparwyr i osod ffioedd teg

Published: 08/04/2022

Sir y Fflint ydi un o’r cynghorau sy’n derbyn y swm lleiaf o gyllid yng Nghymru, felly mae manteisio i’r eithaf ar ein hadnoddau lleol yn bwysig iawn i ni. 

Rydym ni’n deall yr heriau a wynebir gan y sector ac yn parhau i weithio mewn partneriaeth efo Llywodraeth Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru, gan gymryd camau i wella amodau a thelerau ehangach y gweithlu uniongyrchol yn ogystal â bod yn batrwm ar gyfer arfer da mewn gofal cymdeithasol. 

Mae Sir y Fflint yn aelod arweiniol o’r gwaith gosod ffioedd yng ngogledd Cymru, gan weithio ochr yn ochr â Fforwm Gofal Cymru a chynrychiolwyr darparwyr. Fel rhan o’r gwaith yma rydym ni’n ymgysylltu gyda darparwyr cartrefi gofal sy’n wynebu cyfnodau anodd ac yn sicrhau bod y cymorth a gynigir iddyn nhw yn eu helpu i fod yn gynaliadwy. 

Drwy gydweithio gyda darparwyr gofal cartref mae’r Cyngor yn gosod ffioedd gofal teg sy’n adlewyrchu’r heriau y mae darparwyr gofal yn eu hwynebu ar hyn o bryd.

Meddai Nicky Hopwood Clarke, Cyfarwyddwr Premier Care Plus:

“Ein prif flaenoriaeth bob tro ydi rhoi cleientiaid yn gyntaf ac mae Cyngor Sir y Fflint wedi dangos parodrwydd i weithio efo ni, i ganiatáu hyblygrwydd ac arloesedd sydd, er gwaethaf y sefyllfa ariannol heriol, wedi caniatáu i ni wneud hynny. Mae’n teimlo fel pe bai’r diwydiant rhwng dau flaen siswrn yn ariannol ac mae’n rhaid i bob un ohonom ni wneud yr hyn a allwn gyda’r adnoddau sydd gennym. Mae’n hanfodol bod yr incwm rydym ni’n ei dderbyn yn caniatáu i ni wobrwyo ein staff, eu hyfforddi a’u cynorthwyo er mwyn iddyn nhw gynnig gwasanaeth diogel ac urddasol i’n cleientiaid. 

“Dw i’n sylweddoli nad arian ydi bob dim. Er mwyn cyrraedd ein nodau mae’n bwysig bod gan ddarparwyr berthynas waith dda gyda’r comisiynwyr. Mae’r tîm yng Nghyngor Sir y Fflint yn mynd gam ymhellach ac am hynny hoffaf ddiolch a’u canmol nhw i gyd.”

Mae Sir y Fflint hefyd yn cydnabod yr heriau a wynebir gan ddarparwyr gofal ar draws y sector ac yn gweithio’n greadigol gyda phartneriaid i ddarparu gofal arloesol i drigolion Sir y Fflint. Rydym ni wedi ymrwymo i weithio gyda’n darparwyr gofal i sicrhau ffioedd teg ar gyfer sector gofal cynaliadwy. 

Yng Ngwiriad Sicrwydd diweddaraf y Cyngor, dywedodd AGC (Arolygiaeth Gofal Cymru) fod darparwyr gofal yn siarad yn gadarnhaol am y cymorth y maen nhw wedi’i dderbyn gan yr awdurdod lleol yn ystod y pandemig. Roedden nhw’n gwerthfawrogi’r cyfathrebu ac ansawdd y cyngor a’r cymorth a roddwyd. Derbyniodd AGC adborth cadarnhaol hefyd am y cymorth y mae darparwyr gofal yn ei dderbyn pan fo ganddyn nhw bryderon ynghylch diogelu – roedd darparwyr yn teimlo bod y tîm diogelu yn eu cefnogi ac roedden nhw’n gwerthfawrogi cyngor a chyfarwyddyd y tîm.