Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Trefniadau Derbyniadau Ysgol ar gyfer 2018

Published: 10/03/2017

Gofynnir i Gynghorwyr gymeradwyo trefniadau derbyniadau ysgol ar gyfer 2018 yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Mawrth 14 Mawrth. Cynhaliwyd yr ymarfer ymgynghori blynyddol gyda llywodraethwyr ysgol, awdurdodau esgobaethol a chynghorau cyfagos yn ystod mis Ionawr a Chwefror. Roedd yn ymwneud â nifer y disgyblion y gellir eu derbyn i ysgolion unigol, yn seiliedig ar feini prawf a rheoliadau cenedlaethol. Yn Sir y Fflint mae mwyafrif helaeth (96%) dewisiadau rhieni yn parhau i gael eu diwallu gyda nifer eithaf bychan o apeliadau. Mae newidiadau arfaethedig ir niferoedd derbyn mewn sawl ysgol i adlewyrchu newidiadau yn yr adeiladau. Maer holl newidiadau wediu cymeradwyo gan y pennaeth perthnasol. Yr ysgolion hyn yw: Ysgol Cae’r Nant, Ysgol Parc y Llan, Ysgol Uwchradd Cei Connah, Ysgol Uwchradd Dewi Sant ac Ysgol Uwchradd Sant Richard Gwyn. Dwedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: Maen galonogol bod y rhan fwyaf o blant yn Sir y Fflint yn gallu mynychur ysgol y maent wedii dewis. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi darparu adborth yn ystod yr ymgynghoriad diweddar ac rwyn hyderus y bydd mwyafrif y dewisiadau rhieni yn parhau i gael eu diwallu.