Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


System TG newydd i Adran Gynllunio Sir y Fflint

Published: 27/05/2022

planning portal small.jpgMae adran gynllunio Cyngor Sir y Fflint wedi lansio system TG newydd i gefnogi gwaith prosesu pob cais cynllunio.

Mae’r system newydd wedi’i chysylltu â Phorthol Dinasyddion newydd lle gallwch:

  • Weld ceisiadau a chaniatâd cynllunio;
  • Olrhain a rhoi sylw ar geisiadau cynllunio;
  • Gweld ymatebion i ymgynghoriadau;  
  • Cofrestru fel unigolyn â diddordeb i gael hysbysiadau pan ddaw ceisiadau i law ar sail eich meini prawf, e.e. mewn ardal cod post;
  • Cyflwyno ymholiadau cyffredinol;
  • Cyflwyno ymholiadau cyn-ymgeisio;
  • Cael mynediad at restrau wythnosol o geisiadau a ddaeth i law a phenderfyniadau a gyhoeddwyd;
  • Cael mynediad at wybodaeth am apeliadau. 

Trwy gofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif Sir y Fflint a dewis Cynllunio fel un o’ch diddordebau, byddwch chi’n gallu cael mynediad at swyddogaeth lawn y Porthol Dinasyddion:

siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/My-Account

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y Porthol Dinasyddion, anfonwch e-bost at:

agileadministrators@flintshire.gov.uk