Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Pawb yn Rhannu gyda phobl sy’n byw â Dementia

Published: 13/03/2017

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithio gyda Purple Platform ar brosiect o’r enw Share and Share Alike. Mae hwn yn brosiect syn pontio cenedlaethau ac sydd wedii greu ai ddarparu gan Jane Meakin o Purple Platform – sefydliad sy’n defnyddio technegau drama wediu profi i ennyn creadigrwydd, rhoi hwb i hyder a datblygu sgiliau cyflwyno mewn amgylcheddau cefnogol ac ysgogol. Mae Jane wedi gweithio gyda phlant ysgol lleol o Ysgol Gynradd Queensferry ac Ysgol Sant Ethelwold i ddysgu technegau hel atgofion effeithiol iddyn nhw. Roedd hyn er mwyn eu paratoi i ymweld â chleifion â dementia yn Ysbyty Cymunedol Glannau Dyfrdwy. Yn ystod eu hymweliad, bu’r plant yn casglu hanesion ac atgofion bywydaur cleifion, a byddant yn eu defnyddio gyda Jane i gyfansoddi a recordio casgliad o gerddi. Bydd y recordiadau’n creu eitem farddoniaeth unigryw yng ngardd synhwyraidd yr ysbyty. Fel hyn, bydd atgofion y rhai sydd â dementia’n cael eu rhannu â theuluoedd, ffrindiau a’r gymuned leol. Mae’r prosiect unigryw hwn yn bosib o ganlyniad i gyllid Cymunedau yn Gyntaf a phartneriaid eraill: Cyngor Sir y Fflint, Ysbyty Cymunedol Glannau Dyfrdwy a’r Gymdeithas Alzheimers, ynghyd â dwy ysgol leol. Cafodd pob disgybl yn yr ysgolion hyfforddiant Cyfeillion Dementia iw gwneud yn ymwybodol o ddementia. Yna, cynhaliodd Jane weithdai er mwyn dysgu technegau hel atgofion effeithiol i 24 o ddisgyblion o bob ysgol. Ar ôl un sesiwn, bu i Jane drydar yr hyn yr oedd un disgybl wedii ysgrifennu: “Fel Cyfaill i Ddementia, mi fyddaf yn cefnogi pobl sydd efo dementia ac yn eu helpu nhw hefo pethau maen nhwn eu hanghofio. Mi fuaswn i’n gallu ysgrifennu nodiadau iddyn nhw a’u gosod o gwmpas y ty a helpu i wneud pethau y tu allan fel garddio neu fynd â’r ci am dro. Mi fyddaf i’n amyneddgar efo nhw. Ar ôl yr ymweliad diweddar â’r ysbyty cymunedol, bydd Jane yn cydlynu sesiynau cyfansoddi cerddi gyda’r disgyblion, ac yn eu recordio. Bydd eitem farddoniaeth unigryw yna’n cael ei gosod yng ngardd synhwyrol newydd yr ysbyty.