Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor i gynnal Taith Gyfnewid Baton y Frenhines ar gyfer Gemau’r Gymanwlad yn Theatr Clwyd

Published: 21/03/2017

Bydd Baton Gemau’r Gymanwlad 2018 yn ymweld â’r sir ym mis Medi fel rhan o’i daith 388 diwrnod i Gemau’r Traeth Aur yn Queensland, Awstralia Bydd Baton Gemau’r Gymanwlad yn dod i Sir y Fflint ddydd Iau 7 Medi 2017, am ddigwyddiad yn Theatr Clwyd, fel rhan o raglen tridiau yng Nghymru. Yn ystod y daith 388 diwrnod, bydd y baton, sy’n cael ei gario gan griw cyfnewid o redwyr, yn ymweld â phob rhan o’r Gymanwlad cyn cyrraedd ei gyrchfan derfynol, seremoni agoriadol Gemau’r Gymanwlad 2018 yn Ninas y Traeth Aur, 4 Ebrill 2018. Theatr Clwyd fydd yr unig theatr sy’n cael ymweliad yn ystod y rhan Gymreig o’i daith, syn cynnwys cyrchfannau nodedig yn amrywio or Bathdy Brenhinol yn Llantrisant i Zip World ym Mlaenau Ffestiniog. Bydd y Baton yn cyrraedd y theatr yn hwyr yn y prynhawn, i gael croeso gan fyfyrwyr ysgol leol, preswylwyr Sir y Fflint ac arweinwyr dinesig. Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett: “Rydym yn falch o gael theatr mor eiconig yn ein Sir ac mae cael cydnabyddiaeth fel cynhaliwr Baton y Frenhines wir yn anrhydedd, ac rydym yn edrych ymlaen at y dathliadau ym mis Medi. Gellir ystyried Taith Gyfnewid Baton y Frenhines ar gyfer Gemau’r Gymanwlad yn ddatblygiad Cymreig: dechreuodd yng Ngemaur Gymanwlad yng Nghaerdydd ym 1958, pan roedd y rhedwyr yn ei gario drwy bob un o dair sir ar ddeg Cymru. Ers Gemau Melbourne yn 2006, mae wedi ymweld â phob tiriogaeth yn y Gymanwlad fel dathliad gweledol o undeb ac amrywiaeth ei genhedloedd. Maer Baton yn cynnwys neges gan Ei Mawrhydi’r Frenhines i athletwyr y Gemau, a ddarllenir yn y Seremoni Agoriadol. Dywedodd Liam Evans-Ford, Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr Clwyd, “Fel un o’r theatrau â’r nifer uchaf o gynyrchiadau yn y wlad, mae Theatr Clwyd yn falch o groesawu Baton Gemau’r Gymanwlad. Mae’n cynrychioli amrywiaeth y cenhedloedd cenedlaethol a’u traddodiadau celfyddydol, yr ydym yn cysylltu â nhw drwy ein hamrediad eang o berfformiadau a sgriniau, a’r cyfoeth amrywiol o straeon maent yn eu hadrodd.” Mae’r Theatr yn cael ei hariannu ar y cyd gan Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Celfyddydau Cymru, ar Theatr ywr prif gwmni cynhyrchu yng Nghymru.