Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae’r Teithwyr Amser Bychain yn eu holau!

Published: 05/04/2017

Mae’n wanwyn! Amser plannu hadau mân a meddwl am wyau Pasg gydar Teithwyr Amser Bychain. Mae Archifdy Sir y Fflint yn gwahodd teithwyr amser ifainc i gofrestru ar gyfer digwyddiad cyffrous yn ystod gwyliau’r Pasg. Bydd digwyddiad y Teithwyr Amser Bychain yn cael ei gynnal ddydd Mercher 12 Ebrill am 10.30am yn yr Archifdy ym Mhenarlâg. Gall babanod a phlant hyd at 7 oed ddod draw gyda’u rhieni, gofalwyr neu warcheidwaid i gael hwyl yn dysgu am hanes trwy luniau, storïau, crefftau a cherddoriaeth. Bydd y sesiwn yn para awr ac maer cyfan am ddim. Mae archebu lle’n hanfodol, felly peidiwch ag oedi! I archebu lle, neu i gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at archives@flintshire.gov.uk neu ffoniwch 01244 532364.