Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwobrau prentisiaethau

Published: 10/04/2017

Cafodd hyfforddeion y Cyngor yn Academi Sir y Fflint, sy’n gweithio tuag at eu prentisiaethau neu sydd wedi eu cwblhaun llwyddiannus, eu llongyfarch mewn seremoni wobrwyo ddiweddar yn 6ed Glannau Dyfrdwy. Bob blwyddyn, caiff nifer o brentisiaid eu recriwtio i weithio ar draws y Cyngor. Ar hyn o bryd, mae 58 o hyfforddeion mewn lleoliadau ar draws y sefydliad. Mae’r prentisiaid fel arfer yn mynychu Coleg Cambria ar un diwrnod astudio dros ddwy neu dair blynedd tra byddant yn cael eu hyfforddi a’u hasesu yn y gweithle. Dau o enillwyr gwobr fawreddog Hyfforddai’r Flwyddyn yn Sir y Fflint a gwobr Hyfforddai Sylfaen y Flwyddyn yn Sir y Fflint oedd Alex McLaren a Leah Newton, a derbyniodd y ddau eu tlysau gan Brif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett. Dymuna Academi Cyngor Sir y Fflint a Choleg Cambria longyfarch Alex ar gyrraedd cam 2 yng nghystadleuaeth Prentis Trydanol y Flwyddyn NICEIC ac ELECSA ar gyfer 2017’. Roedd Alex, sy’n 20 oed ac o Garden City, ymysg yr 20% gorau o 400 o ymgeiswyr rhagorol yng ngham 1. Dywedodd Alex: “Roedd bod yn yr 20% gorau yn gwneud i mi deimlo’n falch iawn, ac mae wedi rhoi hyder i mi at y cam nesaf. Mi gefais fy annog i roi cynnig ar y gystadleuaeth gan fy nhiwtor yn y coleg ac fe ddewisais fynd ati ar ôl bod yn Sioe Fyw NICEIC ar gae ras Aintree ym mis Tachwedd. Bydd Alex, sydd yn ail flwyddyn ei brentisiaeth, yn mynd drwodd i gam 2 i sefyll arholiad. Derbyniodd Sophie Ellis wobr unigryw ac arbennig iawn – gwobr Helen Stappleton, a gyflwynwyd gan Colin Everett. Y rhai eraill a gyrhaeddodd y rownd derfynol oedd Rebecca Jones, Ryan Varker, Tara O’Boyle a Rachel Pearson. Dywedodd Colin Everett, y Prif Weithredwr: “Rydym yn falch iawn o’n cynllun prentisiaid yn Sir y Fflint, sy’n cael ei gydnabod gan awdurdodau eraill a darparwyr addysg bellach fel arfer da gyda’n partneriaeth gyda Choleg Cambria. Mae’r gyfradd sy’n llwyddo yn uchel iawn – mae 98% o’n hyfforddeion yn cael eu cyflogi un ai gan y Cyngor neun allanol ac mae rhai yn mynd i’r Brifysgol i barhau i astudio. “Rwy’n benodol falch o groesawu ein prentisiaid o’r Cynllun Prentisiaid newydd ar y Cyd (Futureworks Sir y Fflint) i’r seremoni wobrwyo am y tro cyntaf. Mae’r cynllun ar y cyd yn helpu i greu’r nifer fwyaf bosib’ o bobl leol sydd â sgiliau trwy brentisiaethau, ac mae eu hangen ar gyfer rhaglenni mawr y Cyngor i adeiladu ac adnewyddu tai dros y pum mlynedd nesaf. “Llongyfarchiadau i’n holl hyfforddeion, graddedigion ar rhai sydd wedi ennill gwobrau ac, ar ran Academi Sir y Fflint a Choleg Cambria, hoffwn ddymuno pob lwc i Alex. Dywedodd Prif Weithredwr Coleg Cambria, David Jones OBE: “Roeddem yn falch iawn o gynnal y digwyddiad mawreddog hwn, a oedd yn gyfle gwych i ddathlu gwaith caled ac ymroddiad y prentisiaid. Mae’r cynllun prentisiaethau rydym yn ei ddarparu ar y cyd â Chyngor Sir y Fflint yn caniatáu i bobl o bob oed ennill cymwysterau, gan ddysgu sgiliau ymarferol a chael profiad yn y gwaith. Mae mor dda gweld bod gan y Cyngor ddull mor gadarnhaol o hyfforddi a’u bod wedi llwyddo i benodi a datblygu yfforddeion mor dalentog.” Mae’r Cyngor bellach am recriwtio 33 o bobl i ymuno â rhaglen brentisiaethau 2017. Mae’r microwefan bellach ar waith ac yn cynnwys gwybodaeth am yr holl leoliadau. Er mwyn gweld y wybodaeth ac i wneud cais, ewch i www.flintshire.gov.uk/trainees Prentisiaid gyda Colin Everett ac David Jones