Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Stori Fythol y Caffi Dementia

Published: 08/05/2017

Yn ddiweddar cynhaliodd caffi dementia ym Mwcle brosiect ‘Bwcle Cyfeillgar i Ddementia’ yn eu cyfarfod misol. Maer prosiect pontio’r cenedlaethol, sy’n cael ei gynnal gan RMD – Memory Matters, yn darparu “Stori Fythol”, gan ddefnyddio’r dychymyg a hel atgofion, mae’n gweithio gyda phobl sy’n byw â dementia, eu gofalwyr a phlant ysgol. Dywedodd Donna Redgrave o RMD - Memory Matters, sydd wedi bod yn gweithio gyda myfyrwyr o Ysgol Southdowns ym Mwcle: “Dyma’r bedwaredd ysgol yr ydym wedi gweithio gyda hi yn Sir y Fflint ar y prosiect hwn. Mae RMD - Memory Matters yn credu gall y celfyddydau helpu’n sylweddol pawb sy’n cael eu heffeithio gan ddementia i fyw yn dda. Gallant hefyd fod yn gerbyd i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth pobl o’r cyflwr a dod â chymunedau yn nes. Rydym yn cynnig ystod o wasanaethau creadigol, hyfforddiant a chefnogaeth, ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia, eu gofalwyr a’r gymuned ehangach. “Mae disgyblion, athrawon a staff cefnogi yn Southdowns wedi cwblhau sesiwn “Cyfeillion Dementia” sy’n rhoi cyflwyniad iddynt i’r heriau o fyw gyda dementia. Yn dilyn hyn, mae grwp o fyfyrwyr yn gweithio gyda mi ar sesiwn “Stori Fythol”. Mae Caffis Dementia yn darparu amgylchedd diogel, cyfforddus a chefnogol ar gyfer pobl â dementia au gofalwyr i gymdeithasu. Yn ogystal â chynnig amrywiaeth o weithgareddau difyr a hwyliog, mae Caffis Dementia yn rhoi cyfle i ofalwyr a phobl â dementia gael gwybodaeth a chyngor a siarad â phobl eraill sydd â phroblemau tebyg. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Luke Pickering-Jones yng Nghyngor Sir y Fflint ar 01352 702655.