Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwyddiant mewn her ffitrwydd cenedlaethol

Published: 11/05/2017

Mae Pafiliwn Jade Jones yn y Fflint yn dathlu eu llwyddiant mewn ymgyrch i gefnogi ysgol leol. Mae’r ymgyrch, a elwir yn “Gadewch i Ni Symud am Fyd Gwell”, yn ymgyrch fyd-eang i ymdrin â gordewdra a diffyg ymarfer corff. Y nod oedd ymgysylltu â’r gymuned a’u hannog i ddod i “gyfrannu” eu gweithgaredd corfforol i helpu’r gymuned leol a chroesawu ffordd o fyw iachach. Roedd yr ymgyrch yn weithredol o 13-31 Mawrth. O’r 219 o safleoedd a gymrodd ran ar draws y DU, gorffennodd y Fflint yn safle 26 – gyda 1,003,484 o symudiadau (fel y mesurwyd gan yr offer) sy’n ganlyniad rhagorol o ystyried mai 17 o beiriannau cardio sydd ganddynt yn eu campfeydd, llai na llawer o ganolfannau hamdden eraill oedd yn cymryd rhan. Dywedodd y Prif Swyddog dros Newid Sefydliadol yng Nghyngor Sir y Fflint, Ian Bancroft: “Mae’r athrawon yn ysgol arbenigol Maes Hyfryd, Ysgol Uwchradd y Fflint, gweithlu Pafiliwn Jade Jones ac aelodau’r gampfa wedi gwirioneddol ddod ynghyd i gyflawni hyn. Roedd yn wych i’r gymuned ac roedd elfen gystadleuol pawb iw weld drwy gydol yr her!” Dywedodd goruchwyliwr ystafell ffitrwydd y Fflint, Alan Duppa: “Mae taro dros filiwn o symudiadau ar gyfer canolfan hamdden gymharol fach yn llwyddiant anferthol. Y prif fwriad oedd i fynd am y 3 miliwn ac ennill offer Arke ar gyfer campfa Ysgol Maes Hyfryd. Er i ni ddod yn fyr o hynny, mae miliwn o symudiadau yn dangos y penderfynoldeb rhagorol gan bawb a gymrodd ran. Nid yn unig rydym wedi cyflawni rhywbeth arbennig, ond rydym wedi gwella lefelau ffitrwydd cwsmeriaid ar gweithlu ac wedi gwneud mwy o bobl yn ymwybodol or lefelau cynyddol o ordewdra ar draws y byd. Roeddwn mor hapus gyda’r ymdrech a wnaed gan bawb a gymrodd ran. Rydym ni’n un o ddim ond 26 canolfan sydd wedi cyflawni’r trothwy miliwn ac rydym wedi ennill diwrnod hyfforddi, ac rwyn gobeithio y bydd staff yn Ysgol Maes Hyfryd yn mynychu. Hefyd roeddem wedi gwerthu crysau t a bagiau a gododd £200 ir ysgol.