Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dewch i wybod beth sy’n digwydd yn y Fflint

Published: 15/05/2017

Mae digwyddiad gwybodaeth ir cyhoedd yn cael ei gynnal er mwyn arddangos y gwaith adeiladu sy’n cael ei wneud yn Sir y Fflint ar hyn o bryd. Cynhelir y digwyddiad ddydd Gwener 19 Mai, 9am-1pm yn Sinema Gaumont Plaza ar Stryd yr Eglwys a bydd cyfle i bawb ddysgu mwy am ddatblygiad tai Walks, cynllun tai gofal ychwanegol Llys Raddington a’r ganolfan iechyd newydd. Bydd cynrychiolwyr o bob partner datblygu’n bresennol, Cyngor Sir y Fflint, Grwp Tai Pennaf, Ymddiriedolaeth Ysbyty Prifysgol Betsi Cadwaladr, i roi cyngor a gwybodaeth am yr holl ddatblygiadau. Bydd y partneriaid adeiladu hefyd yn bresennol – Wates Residential (The Walks), Anwyl Construction (Llys Raddington) a Read Construction (y ganolfan iechyd). Bydd NEW Homes, y cwmni a sefydlwyd gan y Cyngor i gynyddu nifer y tai fforddiadwy ar gael i drigolion lleol, hefyd yn bresennol â gwybodaeth am yr eiddo sydd ar gael. Dywedodd Prif Swyddog Cymunedau a Menter Cyngor Sir y Fflint, Clare Budden: “Mae hwn yn gyfle gwych i arddangos yr hyn rydym wedi’i gyflawni yn Sir y Fflint hyd yma. Bydd datblygiad The Walks, sy’n rhan o Raglen Tai ac Adfywio Strategol y Cyngor, yn cynnwys 92 ty newydd ar gyfer bobl leol, gyda chymysgedd o dai â 2 neu 3 ystafell wely yn ogystal â fflatiau ag 1 neu 2 ystafell wely, a bydd hyn yn sicr o adfywio canol y dref.” Dywedodd Steve Robinson, Rheolwr Gwasanaeth Gofal Ychwanegol ar gyfer Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, a fydd yn rheoli Llys Raddington unwaith y bydd wedi’i gwblhau: “Mae Llys Raddington yn ddewis ardderchog ar gyfer trigolion Sir y Fflint, sydd dros 60 mlwydd oed ac yn dymuno byw’n annibynnol. Mae’r fflatiau o ansawdd uchel ac yn addas ir rheiny â phroblemau symudedd gyda thenantiaeth ddiogel a mynediad at ofal bob awr o’r dydd. Bydd y preswylwyr yn gallu manteisio ar yr ystod o gyfleusterau cymunedol fel bwyty, lolfa gymunedol, ymolchi gyda chymorth, ystafell westeion, man cadw sgwteri symudedd ac ystafell haul. “Mae nifer eisoes wedi mynegi eu diddordeb yn y cynllun ac maer digwyddiad gwybodaeth ir cyhoedd yn gyfle gwych i bobl ddarganfod mwy a mynegi eu diddordeb mewn gwneud cais am fflat. Disgwylir y bydd y cynllun wedi’i gwblhau erbyn gwanwyn 2018, er ei fod yn teimlon bell i ffwrdd, buan iawn y dawr dyddiad, felly rwyn eich cynghori chi i ddatgan eich diddordeb yn y cynllun ar unwaith. Dywedodd Margaret Hanson, Is-Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Rydym yn edrych ymlaen at gyfarfod âr preswylwyr i drafod prosiect y ganolfan iechyd ymhellach. Mae’r gwaith ar y safle yn mynd rhagddo’n dda ac edrychwn ymlaen at gwblhad y prosiect y flwyddyn nesaf.”