Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Galw am noddwyr i gefnogi Gwobrau Busnes Sir y Fflint

Published: 17/05/2017

Mae digwyddiad busnes blaenllaw Cyngor Sir y Fflint ar ei newydd wedd gyda rhaglen newydd o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn. Ymhlith y rhain mae digwyddiadau’n ymwneud â’r cyfryngau cymdeithasol a phresenoldeb ar-lein, cyllid, twf busnes a chyfleoedd ar gyfer hyrwyddo cyfleoedd lleol i fyfyrwyr ysgol a choleg. Bydd Gwobrau Busnes Sir y Fflint, sy’n hynod boblogaidd, yn parhau i gael eu cynnal yn Neuadd Sychdyn ar 20 Hydref. Eleni, serch hynny, bydd y tîm yn agor y cyfleoedd noddi i fusnesau lleol. Mae’r digwyddiad pwysig hwn yn cefnogir gymuned fusnes yn y sir ac, yn gynyddol, y rhanbarth ehangach, i hyrwyddo eu cwmnïau, i ddatblygu cyfleoedd masnachu ac i godi proffil yr ardal fel lle i fuddsoddi ynddi ac mae noddi’r digwyddiad yn ffordd wych o hybu eich busnes eich hun. I fynegi diddordeb mewn dod yn noddwr – un ai’r prif noddwr ar gyfer y seremoni Wobrwyo, neu noddwr categori ar gyfer un o’r naw gwobr gaiff eu cynnig, cysylltwch os gwelwch yn dda â Kate Catherall i gael ffurflen datgan diddordeb. Bydd angen i ffurflenni datgan diddordeb sydd wedi eu cwblhau gael eu cyflwyno erbyn 31 Mai 2017 Dywedodd Prif Swyddog dros Gymunedau a Menter Cyngor Sir y Fflint, Clare Budden: “Mae ein noddwyr ar gyfer y Gwobrau Busnes dros y blynyddoedd wedi bod yn wych ac fe fydden i’n annog unrhyw fusnes i ystyried derbyn eich cynnig ynglyn â noddi a dangos y gwerth y gallwch ei gyflwyno i’n digwyddiad busnes enwog.” Dyma’r categorïau: 1. Gwobr Prentisiaeth 2. Gwobr Busnes Gorau gyda dros 10 o weithwyr 3. Gwobr Busnes gorau i weithio ynddo 4. Gwobr Busnes Gorau gyda llai na 10 o weithwyr 5. Busnes Newydd Gorau 6. Gwobr Busnes Mwyaf Cyfrifol yn Gymdeithasol 7. Gwobr Arloesedd, Technoleg a Menter Orau 8. Gwobr Unigolyn Busnes y Flwyddyn 9. Gwobr Entrepreneur Am fanylion pellach ynglyn â chyfleoedd noddi, cysylltwch â Kate Catherall – Swyddog Datblygu Busnes ar 01352 703221, neu kate.p.catherall@flintshire.gov.uk