Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ahoi! Mae’r Teithwyr Amser Bychain yn ôl unwaith eto!

Published: 17/05/2017

Mae Archifdy Sir y Fflint yn gwahodd teithwyr amser ifanc i gofrestru ar gyfer Parti Môr-Ladron y Teithwyr Amser Bychain yr hanner tymor yma. Bydd digwyddiad y Teithwyr Amser Bychain yn cael ei gynnal ddydd Mercher, 31 Mai am 10.30am yn yr Archifdy ym Mhenarlâg. Gall babanod a phlant hyd at 7 oed ddod draw gyda’u rhieni, gofalwyr neu warcheidwaid i gael hwyl yn dysgu am hanes trwy luniau, storïau, crefftau a cherddoriaeth. Bydd y sesiwn yn para awr ac maer cyfan am ddim. Mae archebu lle’n hanfodol, felly peidiwch ag oedi! I archebu lle, neu i gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at archives@flintshire.gov.uk neu ffoniwch 01244 532364.