Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyhoeddi Cadeirydd ac Is-Gadeirydd Newydd

Published: 19/05/2017

Ddydd Iau, 18 Mai, etholwyd y Cynghorydd Brian Lloyd yn Cadeirydd gan Gyngor Sir y Fflint. Mae’r Cynghorydd Lloyd yn cynrychioli Gorllewin yr Wyddgrug ac mae wedi bod yn aelod o Gyngor Sir y Fflint ers mis Mai 2012. Mae’r Cynghorydd Lloyd yn briod â Jean ac maent yn byw yn yr Wyddgrug, mae ganddynt un ferch a dwy wyres. Bydd Mrs Lloyd yn gonsort i’r Cynghorydd Lloyd. Dywedodd y Cynghorydd Lloyd: “Rwyf yn falch iawn o gael fy ethol yn Gadeirydd i Gyngor Sir y Fflint ar gyfer y flwyddyn i ddod. Braint yw cael cynrychioli sir mor ardderchog â’r un rydym yn byw ynddi. Byddaf yn cyflawni fy nyletswyddau hyd eithaf fy ngallu ac yn cynrychioli Sir y Fflint â balchder. Hoffwn ddiolch i’m Cyd-Gynghorwyr sydd â hyder yn fy ngallu ac wedi pleidleisio drosaf a llongyfarch yr Is-Gadeirydd, y Cynghorydd Paul Cunningham.” Yr Is-Gadeirydd ar gyfer y 12 mis nesaf yw’r Cynghorydd Paul Cunningham sy’n cynrychioli Trelawnyd, y Fflint. Mae’r Cynghorydd Cunningham wedi bod yn aelod o Gyngor Sir y Fflint ers mis Ebrill 2014. Mae’r Cynghorydd Cunningham yn byw yn y Fflint ac yn briod â Joan, mae ganddynt bedwar o blant a chwe wyres. Bydd Mrs Cunningham yn gonsort i’r Cynghorydd Cunningham.