Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Busnesau stryd fawr Sir y Fflint i elwa o ryddhad ardrethi ychwanegol

Published: 19/05/2017

Bydd Sir y Fflint yn cael cyflwyno cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru a fydd yn darparu rhyddhad ardrethi busnes ychwanegol i fasnachwyr Stryd Fawr Sir y Fflint dros y flwyddyn nesaf. Bydd y cynllun yn cynorthwyo llawer o fasnachwyr stryd fawr, gan gynnwys bwytai, tafarndai a chaffis, yn arbennig y rheiny sydd wedi gweld cynnydd yn eu hardrethi o ganlyniad i ailbrisiad Asiantaeth Y Swyddfa Brisio ,a ddaeth i rym fis Ebrill. Bydd y cynllun yn darparu hyd at £1,500 o ryddhad ardrethi yn ystod 2017/18 i fusnesau sydd mewn eiddo masnachol stryd fawr sydd â gwerth ardrethol o £50,000 neu lai, gan gynnwys y busnesau hynny sydd wedi eu heffeithio yn negyddol gan yr ailbrisio diweddar. Er mwyn gwneud y mwyaf o’r swm o gefnogaeth y gellir ei ddarparu a sicrhau ei fod yn cael ei dargedu at yr ardaloedd a’r busnesau sydd â’r mwyaf o angen, bydd dwy haen o ryddhad ar gael. Bydd yr haen gyntaf yn berthnasol i fasnachwyr stryd fawr sydd â gwerth ardrethol o rhwng £6,001 a £12,000 sydd eisoes yn derbyn rhyddhad ardrethi busnesau bach (SBRR) neu ryddhad ardrethi trosiannol . Byddant yn derbyn gostyngiad yn eu bil ardrethi o £500, neu os yw eu bil yn llai na £500, bydd yn cael ei ddileu yn llwyr. Bydd yr ail haen o ryddhad yn berthnasol i fasnachwyr stryd fawr sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £50,000 sy’n profi cynnydd mewn ardrethi o fis Ebrill ymlaen. Bydd y rhain yn derbyn gostyngiad yn eu bil ardrethi o £1,500. Mae manylion pellach am y cynllun, y meini prawf yn llawn a ffurflen gais ar gael o www.flintshire.gov.uk/businessrates