Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymgyrch Yfed a Gyrru Haf 2017

Published: 31/05/2017

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi ymgyrch Yfed / Cymryd Cyffuriau a Gyrru Cymru gyfan a hoffent amlygu’r neges bwysig iawn hon. Mae pob Heddlu yng Nghymru yn ymuno â’i gilydd am ymgyrch haf yn targedu pobl sy’n Yfed / Cymryd Cyffuriau a gyrru. Mae’r ymgyrch yn dechrau ar 1 Mehefin 2017. Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, mae’r temtasiwn i yfed a gyrru hyd yn oed yn fwy gan fod pobl yn aml yn cael eu temtio i gael ychydig o ddiodydd a chymdeithasu gyda ffrindiau, heb feddwl am y peryglon o fynd tu ôl yr olwyn. Dywedodd Aelod Cabinet Strydoedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Rydym eisiau i bobl fwynhau eu hunain dros fisoedd yr haf. Ond, os byddwch chi’n mynd i ardd gwrw ar ôl gwaith neu i farbiciw gyda ffrindiau ar y penwythnos, rydym yn eich annog i feddwl sut byddwch chi’n mynd adref. Os ydych yn bwriadu yfed, galwch am dacsi, defnyddiwch gludiant cyhoeddus, arhoswch dros nos, trefnwch fod rhywun nad yw’n yfed yn gyrru a pheidiwch ag ildio i’r temtasiwn i fynd i’r car gydag unrhyw un sydd wedi bod yn yfed! Arhoswch yn ddiogel yr haf hwn.” Mae cyffuriau hefyd yn effeithio ar y ffordd rydych yn meddwl ac yn ymddwyn a gall hyn gael effaith sylweddol ar eich gallu i benderfynu a’ch amseroedd ymateb. Byddwch yn gall ynglyn â gyrru ar gyffuriau a meddyliwch cyn i chi fynd tu ôl i’r olwyn neu dderbyn lifft gan rywun os ydych yn gwybod nad ydynt mewn stad i yrru. Cofiwch, mae meddu ar gyffuriau anghyfreithlon yn drosedd a gallech dderbyn cosb drom gan gynnwys dirwy a/ neu ddedfryd o garchar neur bwriad o gyflenwi ac maer cosbaur un fath ac am yfed a gyrru; dirwy, gwaharddiad, a record droseddol. Dylech hefyd fod yn ymwybodol fod rhai cyffuriau ar bresgripsiwn a rhai y gallwch eu prynu dros y cownter fel meddyginiaeth ffliw hefyd effeithio ar eich gallu i yrru a darllenwch y label bod amser os ydych yn cymryd meddyginiaeth gan gynnwys gwrth-histaminau a thawelyddion. Os yw’r label yn eich cynghori i beidio gweithredu peiriannau trwm dylech ei ystyried yn rhybudd i beidio mynd tu ôl ir olwyn. Rydym yn gwybod nad yw yfed a gyrrun cymysgu ac mae alcohol yn gyffur fel unrhyw un arall. Peidiwch ag yfed/ cymryd cyffuriau a gyrru. Peidiwch hyd yn oed ystyried y peth.