Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae’r ardd gymunedol yn ei blodau

Published: 14/06/2017

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi croesawu prosiect i helpu i ddatblygu gerddi cymunedol yn un o’u cynlluniau tai. Mae’r Tîm Tasgau’n fenter newydd sy’n cael ei chefnogi gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Gronfa Arloesi Llywodraeth Cymru i rai syn hyn na 25 ac syn byw mewn clwstwr Cymunedau am Waith. Mae Groundwork Gogledd Cymru’n darparu’r prosiect ynghyd â’u partner, Cymunedau am Waith. Mae gardd gymunedol newydd wedi’i dewis yn Pen-y-Llan Courts yng Nghei Connah lle mae’r Cyngor yn uwchraddio’r eiddo yn rhan o’r cynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn ogystal â gweithio i sicrhau bod yr holl eiddo’n cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru. Mae deg o wirfoddolwyr yn gweithio ar y prosiect cymunedol sy’n para deg wythnos, gan dreulio deuddydd yr wythnos yn dysgu sgiliau newydd ar gwrs achrededig ar wirfoddoli. Maent yn helpu â gwaith plannu a chynnal a chadw’r ardd gymunedol newydd yn Fern/Ivy Court ac maent hefyd yn treulio diwrnod yn ailwampio gardd gymunedol Holly Court. Datblygwyd yr ardd gymunedol hon yn 2009. Mae’r gwirfoddolwyr yn dod yn fwy hyderus â nifer o sgiliau mewn meysydd fel adeiladu, iechyd a diogelwch yn y gwaith a’r amgylchedd. Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge: “Gobeithiwn y bydd yr ardd gymunedol newydd yn darparu amgylchedd braf i holl drigolion Pen-y-Llan ei fwynhau. Da yw gweld bod y gwirfoddolwyr wedi ennill profiad gwerthfawr a chymhwyster drwy eu gwaith caled. Mae’r ardd wir yn ategu’r holl waith gwella sydd wedi’i wneud yn yr ardal hon yn y blynyddoedd diweddar. Fe hoffwn i gydnabod cymorth hael BAAS hefyd, y contractwr ar y safle, a ddarparodd gasgen ddwr i gasglu dwr glaw – cam arall tuag at greu lle sy’n fwy amgylcheddol wyrdd ar gyfer y trigolion.” Dywedodd Jan Owen, Rheolwr Prosiectau Groundwork Gogledd Cymru: “Yn Groundwork, rydyn ni’n cefnogi cymunedau i wneud newidiadau cadarnhaol. Mae ein rhaglen Tîm Tasgau newydd wedi’i hariannu drwy Gronfa Arloesi Llywodraeth Cymru ac mae wedi’i hanelu tuag at gefnogi pobl i gael sgiliau, cymwysterau a hyder newydd drwy ymgymryd â phrosiect cymunedol ymarferol. Rydyn ni’n mwynhau gweithio gyda’r gwirfoddolwyr i drawsnewid yr ardd gymunedol ym Mhen-y-Llan ac hefyd i wneud gwahaniaeth i’r rhai sydd ynghlwm â’r rhaglen drwy gynyddu’r nifer o gyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw yn y dyfodol.” Mae Groundwork Gogledd Cymru yn gweithio ochr yn ochr â chymunedau lleol, cyrff cyhoeddus, cwmnïau preifat a chyrff eraill yn y sector gwirfoddol i gefnogi cymunedau mewn angen. Maent yn helpu pobl a sefydliadau i wneud newidiadau er mwyn creu gwell cymdogaethau, meithrin sgiliau a rhagolygon swyddi a byw a gweithio mewn ffordd sy’n fwy gwyrdd. Yn sefyll: y Cyng. Bernie Attridge, Simon Haines (Groundwork), John Jones (CSFf), y Cyng. Paul Shotton, y Cyng. Andy Dunbobbin, Tony Jones (CSFf) Yn y blaen: y gwirfoddolwr Mark Winter, Debbie Davies (CSFf), Jan Owen (Groundwork)