Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cofiwch ddefnyddio eich pleidlais

Published: 06/06/2017

Dydd Iau 8 Mehefin yw’r diwrnod y bydd etholwyr Sir y Fflint yn cael lleisio barn ynglyn âr rhai syn eu cynrychioli yn etholaethau Seneddol Alun a Glannau Dyfrdwy a Delyn. Dylai pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio fod wedi derbyn cerdyn yn nodi manylion yr orsaf bleidleisio lle gallant fwrw eu pleidlais. Nid oes angen i chi ddod â hwn ar y diwrnod ond, os nad ydych wedi derbyn cerdyn, gofynnwn i chi ffonio 702329 neu 702412 er mwyn cael gwybod ym mhle mae eich gorsaf bleidleisio – efallai na fydd yr un fath âr tro diwethaf i chi bleidleisio! Beth ddylech chi ei wneud ar 8 Mehefin? Bydd y rhan fwyaf o bobl yn pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio ac maent ar agor o 7am tan 10pm ddydd Iau, 8 Mai. Pan gyrhaeddwch, bydd gofyn i chi gadarnhau eich enw a’ch cyfeiriad ac fe gewch eich papur pleidleisio. Er mwyn nodi eich dewis, rhowch ‘X wrth ymyl enw’r ymgeisydd rydych am iddynt eich cynrychioli. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch, bydd staff ar gael i’ch helpu. Os nad ydych wedi pleidleisio mewn gorsaf o’r blaen, ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol; www.fymhleidlaisi.co.uk er mwyn cael gwybod mwy am ba mor syml yw gwneud hynny. Os ydych wedi gwneud cais am bleidlais bost, dylech fod wedi derbyn eich papur pleidleisio erbyn hyn – os nad ydych, ffoniwch 01352 702327, 702329 neu 702412 ar unwaith, os gwelwch yn dda.