Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Archwilio, Darganfod a Dathlu Wythnos Natur Cymru!

Published: 08/06/2017

Ymunwch â miloedd o bobl ar draws Cymru i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau bywyd gwyllt a chael eich ysbrydoli gan fyd natur! Dewch i ddathlu bywyd gwyllt amrywiol Cymru. O adar a gwenyn ein gerddi, blodau ac adar ein harfordir i fywyd gwyllt ein pyllau a’n hafonydd - mae byd natur Cymru yn syfrdanol. Mae digwyddiadau yn cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru, o deithiau cerdded, heriau, a phicnics, i weithgareddau ymarferol, sesiynau gwybodaeth a digwyddiadau i’r teulu cyfan – oll yn ymwneud â bywyd gwyllt a natur. Mae’r gweithgareddau yn addas i bob oed ac yn ffordd wych i chi ddysgu am amgylchedd naturiol eich bro a’i bwysigrwydd i’n lles. Bydd Sir y Fflint yn cynnal ac yn cefnogi nifer o ddigwyddiadau rhad ac am ddim, gan gynnwys: - Picnic tedi bêrs (thema natur wrth gwrs) yn yr ardal addysg ym Mharc Gwepra ddydd Gwener yma, 9 Mehefin, am 3.30. Galwch heibio ar ôl ysgol i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol a lluniaeth – cofiwch ddod â’ch tedi bêr efo chi! - Helfa drysor ym Mharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas, dydd Sadwrn 10 Mehefin o 10am tan 12pm. - A byddwn yn darganfod mwy o fywyd gwyllt cyffrous yn ystod diwrnod darganfod i’r teulu cyfan yn Nyffryn Rhyd-y-mwyn ddydd Sul, 11 Mehefin, o 10am tan 4pm. Galwch heibio i fwynhau amrywiaeth o arddangosfeydd celf a hanes naturiol, yn ogystal â gweithgareddau ymarferol. Ymunwch â’r dathliadau a darganfyddwch ein bywyd gwyllt arbennig! Edrychwn ymlaen at eich gweld chi! Dilynwch ni – @WBP_wildlife #WNC2017 Neu ein tudalen Facebook leol - https://www.facebook.com/NEWBioNet/