Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Bwytwch yn ddiogel yr haf hwn

Published: 19/06/2017

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithio gyda’r Asiantaeth Safonau Bwyd i godi ymwybyddiaeth am fwyta’n ddiogel yr haf hwn yn ystod Wythnos Diogelwch Bwyd, 19-25 Mehefin. Rydym wrth ein bodd pan fo’r tywydd yn cynhesu. Ond oeddech chi’n gwybod y gallai fod angen i chi feddwl yn galetach am ddiogelwch bwyd dros fisoedd yr haf? Mae ymchwil newydd yn awgrymu y gallai pobl yn Sir y Fflint fod yn rhoi eu hunain a’u teuluoedd mewn perygl o wenwyn bwyd drwy ddiffyg gwybodaeth am 4 rheol hylendid bwyd: Oeri, Coginio, Glanhau ac osgoi Croeshalogi. Mae nifer o facteria niweidiol yn tyfu mewn amodau cynhesach, gan olygu y gallai ein bwyd beryglu ein hiechyd. Mae’n bwysig cadw bwyd darfodus yn yr oergell neu mewn blwch oeri nes eich bod yn barod i’w fwyta. Gall bacteria niweidiol ganfod eu ffordd i gigoedd wedi eu coginio a salad os yw cig amrwd yn eu cyffwrdd neu fod yr un offer yn cael eu defnyddio. Mae cadw cigoedd amrwd oddi wrth fwyd wedi’i goginio, golchi eich dwylo ar ôl cyffwrdd â chig amrwd a defnyddio offer gwahanol yn osgoi croeshalogi. Yn y tywydd cynhesach, gallai treulio ychydig o funudau ychwanegol yn sicrhau fod bwyd wedi ei baratoi’n dda ac wedi ei goginio’n drylwyr osgoi dyddiau o ddiflastod gydag anhwylder stumog. Darganfu Arolwg Bwyd a Chi yr Asiantaeth Safonau Bwyd, sy’n casglu gwybodaeth am ddiogelwch bwyd drwy 3,118 o gyfweliadau ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, fod yng Nghymru: · Llai na hanner y bobl a holwyd yn dadrewi cig a physgod yn yr oergell neu’r ficrodon yn ôl y canllawiau (43%). Er nad oedd y rhan fwyaf o bobl yn dadrewi cig na physgod yn briodol, roedd cyfran uwch o bobl yng Nghymru yn dadrewi bwyd yn ôl y canllawiau nag yng ngweddill y wlad. · Roedd un o bob tri (35%) yn golchi cyw iâr amrwd. Mae golchi cyw iâr yn peryglu lledaeniad bacteria a dylid ei osgoi. · Mae un o bob deg o bobl (9%) o leiaf weithiau’n bwyta cyw iâr neu dwrci hyd yn oed pan fod y cig yn binc neu fod hylif pinc neu goch ynddo. · Dim ond hanner (50%) y bobl a holwyd oedd yn gwirio tymheredd eu hoergell, ac roedd llai (42%) yn gwybod y dylid cadw eu bwyd rhwng 0°C a 5°C. · Nid oedd un o bob pedwar (25%) yn defnyddio gwahanol fyrddau torri ar gyfer gwahanol fwydydd, sy’n peryglu lledaeniad bacteria. Dywedodd y Cynghorydd Chirs Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd: “Mae’r ffigyrau hyn yn dangos y gallai pobl wneud mwy yn Sir y Fflint i gadw eu hunain a’u hanwyliaid yn ddiogel yr haf hwn. Dyna pam fod Cyngor Sir y Fflint yn gweithio gydar Asiantaeth Safonau Bwyd i hyrwyddo arferion hylendid da yn ystod Wythnos Diogelwch Bwyd. Nod yr wythnos eleni yw annog gwell arferion hylendid dros yr haf, pan fo’r perygl o gael gwenwyn bwyd yn cynyddu” I gael cynghorion ar sut i aros yn ddiogel yr haf hwn ewch i: https://www.food.gov.uk/wales/about-fsa-wales/cymru/cyngor/gwenwyn-bwyd/canllaw- cynhwysfawr-bwyd-diogel