Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cyngor yn anrhydeddu milwyr wrth gefn y lluoedd arfog

Published: 21/06/2017

Chwifiodd Cyngor Sir y Fflint faner y Lluoedd Arfog heddiw, 21 Mehefin, i ddathlu Diwrnod Milwyr Wrth Gefn. Mae’r Cyngor yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr mae gweithwyr sy’n filwyr wrth gefn yn ei wneud i’r Lluoedd Arfog, ein cymuned, ein sefydliad a’n cenedl. Rydym yn falch o gefnogi Diwrnod Milwyr Wrth Gefn. Mae milwyr wrth gefn yn rhoi o’u hamser sbâr i wasanaethu yn y Lluoedd Wrth Gefn, gan gydbwyso eu bywyd sifilaidd gyda gyrfa filwrol i sicrhau y byddent yn barod i wasanaethu fel rhan o’r lluoedd arfog, pe bai eu hangen ar eu gwlad. Dywedodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin, Cefnogwr y Lluoedd Arfog Cyngor Sir y Fflint : “Mae ein gweithwyr sy’n filwyr wrth gefn yn chwarae rhan hanfodol yn ein Lluoedd Arfog ac yn gwneud cyfraniad sylweddol i weithrediadau yn y DU a thramor. Mae’r wybodaeth a’r sgiliau a gânt o’r lluoedd arfog yr un mor bwysig ac maen nhw’n dod â’r rhain yn ôl i Gyngor Sir y Fflint. Mae pob un o’n milwyr wrth gefn yn rhoi o’u hamser i wasanaethu’r genedl. Maen nhw’n gwneud gwaith anhygoel ac mae’n fraint i ddathlu’r gwaith maen nhw’n ei wneud.” Mae’r Cyngor yn gwbl ymroddedig i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog gan gynnwys milwyr wrth gefn ac yn ddiweddar mae wedi derbyn gwobr efydd y Cynllun Cydnabod Cyflogwr Amddiffyn gan y Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae ein Polisi Milwyr Wrth Gefn y Lluoedd Arfog newydd yn nodi sut byddwn yn eu cefnogi os cânt eu galw i wasanaethu. #SaluteOurForces