Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


The Secret Garden

Published: 01/07/2014

Ym mis Gorffennaf, bydd stori hyfryd The Secret Garden yn dod yn fyw o flaen ein llygaid yn ystod perfformiad gan ddisgyblion ysgol. Ddydd Gwener, 4 Gorffennaf, yn Clwyd Theatr Cymru bydd disgyblion o Ysgol Trelogan ac Ysgol Brynffordd yn Sir y Fflint ac Ysgol y Rhos yn Sir Ddinbych yn cymryd rhan ym Mherfformiad Ysgolion Sir y Fflint. Mae The Secret Garden, a ysgrifennwyd gan Frances Hodgson Burnett, yn un o nofelau plant mwyaf poblogaidd llenyddiaeth Saesneg yr ugeinfed ganrif. Gan weithio gyda thîm o weithwyr proffesiynol dan gyfarwyddyd artistig yr awdur Janys Chambers ( a enwebwyd am BAFTA), y dylunydd Andrea Davies ar artist gweledol Sarah Carvel, bydd y disgyblion yn creu propiau a golygfeydd ar gyfer y cynhyrchiad ac yn cynorthwyo Janys Chambers i ysgrifennu’r sgript. Mae Janys wedi ysgrifennu dros 100 o sgriptiau ar gyfer radio, theatr a theledu’r BBC, yn ogystal ag ar gyfer yr opera sebon Emmerdale, Holby a Children’s Ward. Mae ei gwaith diweddar yn cynnwys addasu My Family and Other Animals ar gyfer yr York Theatre Royal. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg: “Mae hon yn enghraifft ragorol o awdurdodau lleol yn gweithio gydai gilydd i roi cyfle gwych i bobl ifanc gymryd rhan gydag artistiaid proffesiynol ac i berfformio ar lwyfan proffesiynol. Mae Perfformiad Ysgolion Sir y Fflint yn cael ei drefnu gan Adain Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau Cyngor Sir y Fflint ac maer cynhyrchiad o The Secret Garden wedi ei ariannu’n rhannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llenyddiaeth Cymru. Nodyn y golygydd Am gyfleoedd lluniau, cysylltwch â Trefor Lloyd Roberts, Swyddog Datblygur Celfyddydau ar 01352 704027 neu anfonwch e-bost at Trefor.l.roberts@flintshire.gov.uk.