Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Bwrdd NEW Homes yn ymweld â’u cartrefi newydd

Published: 22/06/2017

Yn ddiweddar gwnaeth Bwrdd NEW Homes ymweld â’r cynllun tai gwerth £7.77m o 62 o gartrefi fforddiadwy newydd yng nghanol tref y Fflint. Gwnaeth North East Wales Homes Ltd (NEW Homes) a Chyngor Sir y Fflint ddatblygu dull arloesol o ariannur cynllun lle mae’r Cyngor wedi darparu benthyciad cyllid cyfalaf i NEW Homes. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a Chadeirydd NEW Homes: “Rwyf wrth fy modd bod saith o gartrefi NEW Homes wedi’u trosglwyddo i’r tenantiaid cyntaf y mis hwn. Mae hwn yn gynllun arloesol a bydd yn gwellar cynnig tai i bobl syn byw yn y Fflint.” Yn ychwanegol at y 62 o gartrefi fforddiadwy, bydd y cynllun hefyd yn darparu 30 o gartrefi Cyngor newydd ar y safle.