Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathlu llwyddiant yr iaith Gymraeg

Published: 21/06/2017

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi dathlu llwyddiant athrawon a chymhorthwyr dosbarth sydd wedi cwblhau cyrsiau Cymraeg yn ystod y flwyddyn. Mewn Seremoni Wobrwyo yng Ngwesty’r Beaufort Park, roedd athrawon a chymhorthwyr dosbarth o ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg ar draws y sir yn derbyn gwobrau a gyflwynwyd gan y Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid, Ian Budd sy’n gorffen a’i olynydd Claire Homard. Meddai Ian Budd: “Mae digwyddiadau fel hyn yn bwysig nid yn unig i ddathlu llwyddiant ein gweithlu i wella eu sgiliau iaith Gymraeg ond hefyd i gyfnerthu ymrwymiad cryf Sir y Fflint i’r iaith Gymraeg. Trwy ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, rydym yn cefnogi pobl o bob oed i wella eu sgiliau iaith Gymraeg a rhoi’r hyder iddynt ddefnyddio’r iaith yn eu bywyd bob dydd.” Dywedodd Rhian Roberts, Rheolwr tîm Ymgynghorol y Gymraeg yn Sir y Fflint: “Mae hyfforddi staff wedi bod yn uchel ar agendar tîm ers sawl blwyddyn ac mae’n parhau’n elfen hanfodol o’n gwaith. Mae’n bwysig iawn fod gan ein gweithlu’r sgiliau iaith angenrheidiol i ddarparu gwaith priodol i oed a digon heriol i ddisgyblion. Mae athrawon a chymhorthwyr dosbarth hefyd wedi manteisio ar y cyfle i ddilyn cyrsiau Sabathol Cymraeg a ddarperir gan Brifysgol Bangor ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Byddwn yn parhau i weithio ar y flaenoriaeth hon i sicrhau y gall Sir y Fflint gwrdd â heriau targed Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”