Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwyddiant i ysgol Sir y Fflint

Published: 26/06/2017

Fe wnaeth Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint gefnogi disgyblion o Ysgol Maes Hyfryd yn y Fflint yn ddiweddar, a gymerodd ran mewn prosiect Menter yr Ifanc. Cafodd tîm y prosiect Tymhorau Hyfryd eu hariannun rhannol gan Gymunedau yn Gyntaf, ac roedd yr ysgol yn llwyddiannus, gan ennill y Cyflwyniad Tîm Gorau yn Rownd Derfynol Menter yr Ifanc Cymru yng Nghaerdydd. Fe wnaeth tîm menter o ddeg disgybl chweched dosbarth ddatblygu model busnes i ddarparu cynhyrchion poblogaidd a gwasanaethau am bris rhesymol. Fe wnaed y cyfan gan y myfyrwyr, mae eitemaun cynnwys cardiau ar gyfer bob achlysur a chrefftau tymhorol ar gyfer digwyddiadau arbennig. Mae eu cwsmeriaid yn fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr â’r ysgol. Eu nod oedd bod yn dîm effeithiol a gweithio’n galed iawn i wneud y gorau y gallent fod. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygu Economaidd: “Mae hwn yn llwyddiant anhygoel gan y myfyrwyr hyn. Rwy’n falch iawn eu bod wedi ennill y wobr fawreddog hon ond, nid yn unig hynny, rwy’n falch iawn a dylent hwythau hefyd fod yn falch iawn o beth maent wedi’i gyflawni.” Dywedodd Beverley Moseley, swyddog gyda Chymunedau yn Gyntaf: “Fe wnes i fynd i’r digwyddiad, ac fe roddodd y myfyrwyr gyflwyniad llawn hwyl, a oedd yn rhoi digon o wybodaeth i’r gynulleidfa, a chafwyd llawer o ganmoliaeth gan y beirniaid pan wnaethant ddarparur canlyniadau. Mae Menter yr Ifanc yn elusen arweiniol y DU syn grymuso pobl ifanc i gofleidio eu sgiliau personol a busnes, maen gweithion uniongyrchol gyda phobl ifanc, eu hathrawon a busnesau. Mae ei rhaglenni cyflogadwyedd ymarferol ac addysg ariannol wedi’u cyflwyno i sawl ysgol yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn Sir y Fflint.