Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


ESGYN i’r GIG

Published: 30/06/2017

Mae dynes leol wedi bod ar leoliad gwaith 6 wythnos o hyd diolch i raglen Esgyn Cyngor Sir y Fflint. Cofrestrodd Lisa Jones o Gei Connah ar raglen Esgyn yn 2016 ac mae wedi bod yn ddi-waith ers 4 blynedd. Mae hi ar hyn o bryd ar Leoliad Gwaith Gwirfoddol yng nghymuned Glannau Dyfrdwy fel Cymhorthydd Gofal Iechyd. Cyfeiriwyd Lisa at y rhaglen lwyddiannus, Camu i Waith, syn cael ei darparu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) gan ei bod wedi dangos diddordeb mewn Iechyd a Gofal. I’w pharatoi i fynd ar y lleoliad gwirfoddol, cafodd Lisa hyfforddiant yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac fe enillodd ei Phasbort GIG yn ogystal â chwblhau cwrs e-ddysgu a drefnwyd gan BIPBC. Wrth sôn am ESGYN, dywedodd Lisa: “Roeddwn i’n frwd dros weithio i’r GIG gan fy mod i wastad wedi bod eisiau gweithio fel nyrs. Mi ydw i a fy ngwr, Cliff, a fydd yn dechrau gweithio’n fuan fel gyrrwr tacsis diolch i raglen Esgyn, wedi bod gartref yn gofalu am ein 7 plentyn. Roedd y ddau ohonon ni’n ei chael hi’n anodd dod yn ôl i weithio, ond mae hyn bellach yn teimlo’n bosib’, diolch i Esgyn sydd wedi ein hannog a’n paratoi ni. ’Fyddwn i erioed wedi cael y cyfle hwn pe na fyddwn i wedi cael y cymorth un-i-un rydw i wedi’i gael gan Esgyn a BIPBC.” Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint: “Mae Esgyn Sir y Fflint yn rhaglen wych sy’n helpu pobl sydd heb fod mewn gwaith ers chwe mis neu fwy drwy roi’r hyder a’r hyfforddiant y maen nhw eu hangen i ddilyn y llwybrau gyrfa maen nhw’n eu dewis. Dechreuodd tri o bobl ar leoliadau eleni fel Cymorthyddion Gofal Iechyd a Phorthor yn Ysbytai Cymunedol Treffynnon a Glannau Dyfrdwy ac Ysbyty Maelor Wrecsam. Mae’r criw nesaf o naw o gleientiaid eisoes yn gwneud cynnydd da o ran eu hyfforddiant ac maent wedi bod mewn 2 weithdy gan y GIG.” Dywedodd Mandy Hughes, Rheolwr Moderneiddio Gweithlu BIPBC: “Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu lleoliadau gwaith â chymorth i’r rhai sydd bellaf oddi wrth y farchnad waith ar hyn o bryd drwyr rhaglen Camu i Waith. Mae’r Bwrdd Iechyd yn falch o lwyddiant y partneriaethau syn cefnogir rhaglen ac maen gweithio gydar Ganolfan Byd Gwaith, Cymunedau yn Gyntaf, Esgyn ac Agoriad ac mae pob un yn darparu cymorth estynedig i’r gwirfoddolwyr. Mae’r rhaglen yn gweithio i gefnogi pobl i ddod o hyd i waith hirdymor.” Mae Adran Datblygur Gweithlu a Datblygu Sefydliadol BIPBC ac Esgyn Sir y Fflint yn gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod cleientiaid yn cyflawni’r rhaglen Camu i Waith heb drafferth. Mae 3 dyddiad ar gyfer y sesiynau nesaf i dorri’r iâ wedi’u trefnu’n barod, sef: Dydd Iau 3 Awst 9am-12pm Dydd Iau 12 Hydref 9am-12pm Dydd Iau 16 Tachwedd 9am-12pm Lleoliad: yr Hen Lys, Heol yr Eglwys, y Fflint I archebu lle yn un o’r sesiynau uchod, ffoniwch Clive neu Debbie ar 01244 846090. Llun: Debbie Barker, Mentor Esgyn; Lisa Jones, Nyrs Staff; Heidi Graham, Gweithiwr Cefnogi Gofal Iechyd; Anna Tapworth; a Clive Rowland, Mentor Esgyn.