Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun y Cyngor

Published: 10/07/2017

Bydd Cynllun y Cyngor, Cyngor Sir Y Fflint yn cael ei ystyried yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaeth dydd Iau, 13 Gorffennaf. Mae’r Cynllun ar gyfer 2017-23 wedi’i adolygu a’i ddiwygio i adlewyrchu prif flaenoriaethau’r Cyngor ar gyfer y tymor pum mlynedd o’r weinyddiaeth newydd. Yn dilyn lefelau parhaus o galedi, mae enw’r Cynllun wedi newid o fod yn Gynllun Gwella i “Gynllun y Cyngor” a bydd yn canolbwyntio ar gynnal gwasanaethau cyhoeddus â blaenoriaeth gan ddangos uchelgais mewn meysydd i ddatblygu ar gyfer y dyfodol. Mae strwythur y cynllun yn parhaur un fath â chynlluniau blaenorol ac yn cynnwys chwe blaenoriaeth sy’n canolbwyntio ar effaith ac is-flaenoriaethau perthnasol, yn hytrach nag wyth. Mae’r chwe blaenoriaeth yn edrych yn yr hirdymor ar brosiectau ac uchelgeisiau dros y pum mlynedd nesaf. Sef: · Cyngor sy’n Gefnogol · Cyngor Uchelgeisiol · Cyngor sy’n Dysgu · Y Cyngor Gwyrdd · Cyngor Cysylltiedig · Cyngor sy’n Gwasanaethu Mae drafft terfynol o Gynllun y Cyngor yn ganlyniad o ystyriaethau gan y Pwyllgorau Archwilio a Chraffu o fewn eu cylch gorchwyl perthnasol. Bydd y Cynllun Cyngor terfynol ar gael ar y wefan cyn diwedd mis Medi unwaith y bydd wedi’i ardystio gan y Cyngor Sir. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Mae’r Cynllun hwn yn gosod ein prif flaenoriaethau i gefnogi a gwella bywydau preswylwyr. Mae rhai o’n blaenoriaethau yn 2017-18 yn cynnwys ehangu darpariaeth o gartrefi fforddiadwy i breswylwyr mewn angen; diogelu pobl rhag tlodi, gyda phwyslais penodol ar dlodi tanwydd a bwyd; galluogi pobl i fywn annibynnol yn ogystal â bod gartref, gan osgoi unrhyw dderbyniadau diangen i’r ysbyty; gweithio gyda phartneriaid i gynnal twf economaidd a chynyddu cyfleoedd cyflogadwyedd; datblygu isadeiledd cludiant y sir i gynnwys system cludiant ‘ Metro’ integredig. “Yn ychwanegol i’r blaenoriaethau hyn, rydym yn anelu i weithio i gefnogi plant a phobl ifanc i gyflawni eu potensial; gwella’r amgylchedd naturiol a hyrwyddo mynediad i’r mannau agored a gwyrdd. Er y caledi ariannol parhaus, byddwn yn parhau i fod yn ymrwymedig ac uchelgeisiol fel Cyngor i barhau i ddarparu ar gyfer ein cymunedau lleol. Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheoli Corfforaethol ac Asedau: “Mae’r cynllun wedi’i ddiwygio a’i ddiweddaru i adlewyrchu prif flaenoriaethaur Cyngor ar gyfer y pum mlynedd nesaf. “Maer Cyngor yn gwneud cynnydd da a chyson mewn meysydd a amlygwyd fel blaenoriaethau. Mae’r Cynllun hefyd yn cynnwys materion cenedlaethol a lleol a allai effeithio ar ein blaenoriaethau. Y peth pwysig yw bod Sir y Fflint yn parhau i gyrraedd a rhagori ei dargedau ac yn gosod blaenoriaethau newydd i ddatblygu’r perfformiad i gynnal y perfformiad cadarn y Cyngor bob blwyddyn.”