Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Grwp Enfys yn cael amser gwych yn Ardal Addysg Parc Wepre

Published: 12/07/2017

Ymwelodd Grwp Enfys 1af Nannerch â Pharc Wepre ar gyfer rhwydo yn y pwll a sesiwn bwystfil bach yn defnyddio Ardal Addysg y parc. Cafodd y plant amser gwych yn dod o hyd i amryw o chwilod gan gynnwys pryf cop y cynhaeaf, gwenyn a chwilod tarian yn y dolydd a badwyr dwr a madfall larfal yn y pwll trochi. Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Mae’r Ardal Addysg yn ardal dysgu amgylcheddol gwych. Mae’n hanfodol dysgu pwysigrwydd natur i’n blant o oedran cynnar fel eu bod yn dysgu parchu a mwynhau’r byd yr ydym yn byw ynddo. Darllenais ystadegyn os nad yw plentyn yn cael cyswllt gyda natur erbyn y byddant yn ddeuddeg oed, maent yn llai tebyg o ymgysylltu gyda natur pan fyddant yn oedolyn a byddant yn colli allan ar lawer o gyfoeth a ddaw drwy fod allan yn yr amgylchedd naturiol.” Dywedodd Ceidwad Cefn Gwlad, Stephen Lewis a gynhaliodd y sesiwn chwilio am chwilod: “Mae’r Ardal Addysg yn hafan bywyd gwyllt heb gwn, gyda dolydd llawn blodau a phwll ffantastig i drochi ynddo. Mae’r ardal Addysg ar gael i’w defnyddio am ddim, archebu trwy gais. Os hoffai unrhyw grwpiau neu ysgolion archebu gweithgareddau o dan arweiniad ceidwad, anfonwch e-bost ataf, stephen.lewis@flintshire.gov.uk codir £1.50 fesul plentyn am 2 awr o sesiwn (lleiafaswm o £30 fesul grwp) neu £2.50 fesul plentyn am sesiwn 4 awr (lleiafswm o £50 fesul grwp), syn werth da iawn am arian. Llun: Ceidwad Cefn Gwlad, Stephen Lewis, aelodau o Grwp Enfys 1af Nannerch ac arweinydd Dawn Guest.