Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaith ar briffordd yr A5026 Boot Hill, Bagillt

Published: 17/07/2017

Mae Cyngor Sir u Fflint yn falch o gyhoeddi bod cyllid wedi ei sicrhau i gynnal gwaith cynnal a chadw ar briffordd yr A5026 Boot Hill. Bydd y gwaith yn dechrau ddydd Gwener 21 Gorffennaf ac yn cymryd oddeutu 5 wythnos i’w gwblhau. Er hwylustod bydd y rhan hon o’r A5026 rhwng Treffynnon a Bagillt ar gau i draffig trwodd a bydd llwybr gwyro wedi ei arwyddo’n briodol i sicrhau diogelwch gweithwyr a theithwyr. Bydd mynediad ar gael i breswylwyr. Dywedodd Aelod Cabinet Strydoedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Mae angen cau’r ffordd er mwyn caniatáu i’r Cyngor ymgymryd â’r gwaith yn ddiogel a chyn gynted â phosibl. Bydd buddsoddiad y Cyngor yn y briffordd hon yn diogelu cyflwr y ffordd am flynyddoedd i ddod ac rydw i’n croesawu’r gwelliannau ac yn gofyn i deithwyr fod yn amyneddgar yn ystod cyfnod y gwaith.” Mae Cyngor Sir y Fflint yn ymddiheuro am unrhyw oedi ac amhariad y bydd y gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn yn ei achosi.