Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae Rhaglen Gyfnewid Ieuenctid Japan Sir y Fflint eich angen chi

Published: 17/07/2017

Mae Rhaglen Gyfnewid Ieuenctid Japan Sir y Fflint yn chwilio am bedwar ymddiriedolwr brwdfrydig newydd i ymuno âr bwrdd. · A oes gennych chi ddiddordeb mawr yn niwylliant Japan? · A ydych chi’n frwd dros roi cyfleoedd newydd i bobl ifanc ac ehangu eu gorwelion nhw? · A oes gennych chi gefndir o ddelio âr gyfraith neu gyllid? · A allwch chi ymrwymo i ddod i o leiaf dri chyfarfod nos y flwyddyn i ymddiriedolwyr, syn cael eu cynnal yn yr Wyddgrug? Os oes unrhyw un or cwestiynau uchod yn wir amdanoch chi, efallai mai chi ywr un rydyn nin chwilio amdano neu amdani. Mae’r rhaglen gyfnewid yn ariannur rhan fwyaf o gostau 6 myfyriwr o Sir y Fflint, rhwng 16 ac 18 oed, i gymryd rhan mewn rhaglen gyfnewid rhwng Sir y Fflint a Japan. Mae’r ymddiriedolwyr yn rheoli cronfa’r ymddiriedolaeth, yn cefnogi’r cydlynydd ac yn goruchwylio gweithgareddau’r cyfnewidiad, syn digwydd pob haf. Mae rôl ymddiriedolwr yn un wirfoddol ac yn ddi-dâl. I gael mwy o fanylion am Raglen Gyfnewid Ieuenctid Japan, rolau a chyfrifoldebau ymddiriedolwyr a sut i wneud cais, cysylltwch â Gwenno Eleri Jones ar 01352 702471 neu gwenno.e.jones@flintshire.gov.uk. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Iau, 24 Awst 2017.