Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Busnes NEW Homes

Published: 14/07/2017

Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo Cynllun Busnes NEW Homes 2017/2022 yn ei gyfarfod ddydd Mawrth 18 Gorffennaf. Mae’r Cynllun, sydd wedi derbyn cymeradwyaeth Bwrdd NEW Homes, yn nodi prif elfennau cynllun twf arfaethedig y cwmni i gynyddu niferoedd yr eiddo y maen ei reoli ac yn berchen arnynt fel tai fforddiadwy dros y pum mlynedd nesaf. Fe sefydlwyd NEW Homes i ddarparu dewis tai newydd amgen a fforddiadwy i bobl leol. Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge: “Rwyf wrth fy modd bod y cynllun arloesol hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddiwallu anghenion tai lleol drwy ddarparu nifer o wahanol ffyrdd y gall pobl ddod o hyd i gartrefi fforddiadwy”. “Mae’r berthynas waith gadarnhaol rhwng y Cyngor, NEW Homes a’n partneriaid adeiladu yn golygu ein bod wedi gallu darparu tai o ansawdd uchel a fforddiadwy yn gyflym syn golygu bod pobl leol yn gallu parhau i fyw yn eu cymunedau.”