Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ffioedd gwresogi cymunedol

Published: 14/07/2017

Yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Mawrth 18 Gorffennaf, gofynnwyd i aelodau gymeradwyor ffioedd gwresogi wythnosol mewn eiddo sydd â systemau gwresogi cymunedol ar gyfer y 3 blynedd nesaf. Mae naw o gynlluniau gwresogi cymunedol ar draws Sir y Fflint. Y Cyngor sy’n talu am y tanwydd yn y lle cyntaf, ac yna mae’n casglu arian amdano gan denantiaid yn ychwanegol at eu rhent wythnosol, gydar nod o adennill y costau i fod yn gyfartal ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol. Mae taliadau gwresogi ar gyfer defnyddio tanwydd yn seiliedig ar ddefnydd y flwyddyn flaenorol. Mae cost nwy wedi cynyddu’n sylweddol yn 2017/18, felly mae angen cynyddu’r ffi wresogi wythnosol mewn chwech o’r naw cynllun gwresogi cymunedol. Mae defnydd yn y tri bloc twr yn y Fflint wedi gostwng ar ôl y mesurau arbed ynni a gymerwyd yn rhan o waith Safon Ansawdd Tai Cymru. Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge: “Rwy’n falch iawn bod ein gwaith i arbed ynni yn Nhyrraur Fflint yn golygu y bydd ffioedd gwresogin gostwng yn Castle Heights dros y flwyddyn nesaf i gyfartaledd o £5.10. Ni fydd newid yn ffioedd y ddau floc arall ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae cynnydd mewn ffioedd gwresogi’n cael ei gyflwyno fesul cam yn ein chwe chynllun arall, gan gydnabod y pwysau ariannol y mae cartrefin ei wynebu. Bydd yr holl newidiadau mewn grym o 1 Medi 2017 ymlaen.