Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Deddf Tai (Cymru) 2014 - Digartrefedd

Published: 14/07/2017

Caiff adroddiad sy’n dangos sut mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi lleihau digartrefedd ei drafod gan Aelodau Cabinet ddydd Mawrth (18 Gorffennaf). Cyflwynodd Deddf Tai (Cymru) 2014 ddeddfwriaeth digartrefedd newydd ym mis Ebrill 2015. Cafodd gwasanaeth digartrefedd yn Sir y Fflint ei ailstrwythuro i gynyddu capasiti, fodd bynnag, bu cynnydd yn nifer yr aelwydydd sy’n gofyn am gymorth ac mae’r gwasanaeth yn rhagweld pwysau ychwanegol oherwydd cyfuniad o ffactorau, gan gynnwys cyflwyno Credyd Cynhwysol a fydd yn arwain at fwy o deuluoedd yn wynebu caledi ariannol ac angen cymorth. Mae Sir y Fflint yn cynnig nifer o wasanaethau newydd i reoli digartrefedd yn y Sir. Mae’r rhain yn cynnwys cynigion i osgoi unrhyw achosion o gysgu ar y stryd. Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge: “Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i atal digartrefedd, fel rydym wedi dangos drwy’r gwaith helaeth rydym wedi’i wneud. Byddwn yn parhau gyda’r gwaith hwn. Rydym yn mynd tu hwnt i’n dyletswydd statudol ac yn darparu llety dros dro i unrhyw un sydd heb unman i aros, waeth beth yw eu statws angen blaenoriaethol. “Mae ein dyraniad cyllid pontio gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gweithredu’r ddeddfwriaeth newydd wedi’i leihau i £130,000 eleni, ac rydym yn disgwyl mai hon fydd y flwyddyn olaf y bydd cyllid ychwanegol ar gael. Rwy’n falch o ddweud bod Sir y Fflint wedi’i ganmol gan Shelter Cymru ar sut mae’n defnyddio’r cyllid hwn. Fodd bynnag, mae nifer o heriau cenedlaethol a phwysau allanol, gan gynnwys diwygio lles a chyllidebau sy’n lleihau, sy’n gwneud ein gwaith yn fwy heriol.” Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Mae tai wedi bod yn flaenoriaeth i Sir y Fflint ers tro. Ar ben y gwaith presennol sy’n cael ei wneud, rydym am archwilio dull cwbl wahanol sy’n ceisio lleihau rhywfaint o drawma digartrefedd. Mae Tai yn Gyntaf yn ddull gwahanol sy’n ceisio gorffen defnyddio llety dros dro drwy ailfeddwl sut rydym yn ymdrin â digartrefedd yn gyfan gwbl. “Ein cynnig yw datblygu cynllun ‘Tai yn Gyntaf’ mewn partneriaeth â landlordiaid cymdeithasol a gwasanaethau cynnal. Mae argaeledd llety yn golygu y bydd hwn yn ateb addas mewn achosion cyfyngedig yn unig ond gallai chwarae rôl sylweddol o ran atal digartrefedd, aros mewn llety gwely a brecwast a symud diangen i bobl sengl ddiamddiffyn neu deuluoedd gyda phlant.” Mae Tai yn Gyntaf yn fodel a ddefnyddir yn eang yng Nghanada, UDA a rhai gwledydd yn Ewrop i bobl gydag anghenion cefnogaeth canolig ac uchel ac mae wedi bod yn effeithiol o ran pobl yn cynnal eu llety a lleihau eu defnydd o lety dros dro, gwasanaethau iechyd brys, carchardai a gwasanaethau eraill. Gallai Model Tai yn Gyntaf ar raddfa fach gael ei weithredu o fewn adnoddau presennol yn yr adran Tai. Os caiff ei weithredu’n llwyddiannus, gall y fenter hon leihau pwysau ar wasanaethau statudol drwy leihau derbyniadau ir ysbyty, dedfrydau yn y carchar, costau gwasanaethau iechyd meddwl a chyffuriau ac alcohol yn ogystal â lleihau achosion o droi pobl allan a llety dros dro.”