Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad AGGCC ar Wasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint

Published: 14/07/2017

Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried yr adroddiad blynyddol gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn ei gyfarfod ar ddydd Mawrth, 18 Gorffennaf. Mae’r adroddiad hwn yn dilyn arolygiad ac adolygiad perfformiad gan AGGCC yn ogystal â gweithgaredd ymgysylltu drwy’r flwyddyn ac mae’n ardystiad cadarnhaol o ddiogelwch a gwasanaethau a darpariaeth gofal o safon. Mae llawer iw ddathlu ar ôl perfformiad cryf gyda llawer o elfennau cadarnhaol i amlygu. Mae hyn o fewn cyd-destun galw cynyddol ar y gwasanaeth, mwy o gymhlethdod o ran angen a sefyllfa gyllidebol heriol iawn. Prif thema AGGCC y llynedd oedd gofalwyr a diogelu oedolion; bydd gweithredu’r trothwyon diogelu newydd a chanllawiau yn parhau fel blaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae’r adroddiad yn rhoi sylwadau cadarnhaol ar ddatblygiad y Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth yn y Gwasanaethau Oedolion a’r Ganolfan Help Cynnar yn y Gwasanaethau Plant. Mae uchafbwyntiau pellach yn cynnwys: Trawsnewid y gwasanaethau anableddau dysgu; Datblygu mentrau cymdeithasol; Ymrwymiad cynyddol i wasanaethau iaith Gymraeg; Cynyddu’r cyfleoedd i bobl gael dweud eu dweud wrth lunio comisiynu strategol; Ymrwymiad cryf i bartneriaethau strategol; Ymgysylltiad cryf gyda’n darparwyr. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: “Mae hwn yn adroddiad ardderchog ac yn asesiad da on perfformiad y llynedd. Asesiad cyffredinol y Cyngor yw bod Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i yrru gwelliannau mewn gwasanaethau ac mewn sefyllfa dda i ymateb ir amgylchedd ariannol heriol, ond hefyd yn realistig ynghylch maint yr her. Nid ydym yn hunanfodlon, ac rwyf yn falch or gwaith da sydd wedi cael ei gyflawni ar draws y bwrdd.” Mae blaenoriaethau allweddol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod yn cynnwys: gweithredu’r canllawiau diogelu newydd, y mae Cyngor Sir y Fflint yn parhau i’w blaenoriaethu i sicrhau bod oedolion, pobl ifanc a phlant yn cael eu diogelu, cefnogaeth a ddarperir i bobl gydag anghenion iechyd meddwl a phenderfyniadau am leoliadau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.