Hafan > Preswyl > Cyllideb a Threth y Cyngor – atebion i'ch cwestiynau

Cyllideb a Threth y Cyngor – atebion i'ch cwestiynau

Beth ydw i’n talu amdano gyda fy Nhreth Cyngor?

Treth leol ydi Treth y Cyngor sydd yn cael ei gasglu gan bob cyngor yng Nghymru ac mae’n seiliedig ar werth eiddo domestig fel y pennir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. 

Mae bil eich Treth Cyngor yn cynnwys tri thâl gwahanol - tâl i Gyngor Sir y Fflint, tâl i Heddlu Gogledd Cymru, a thâl i’ch cyngor tref neu gymuned leol.  

Dim ond 25% o’r arian y mae’r Cyngor ei angen i dalu am wasanaethau lleol sydd yn cael ei godi trwy Dreth y Cyngor.  Daw’r rhan fwyaf o’n incwm (66%) gan Lywodraeth Cymru ar ffurf grant.  Daw’r 9% sy’n weddill o’r ffioedd rydym yn ei godi am rai gwasanaethau. 

Nid yw Treth y Cyngor rydym yn ei gasglu yn fil uniongyrchol am y gwasanaethau unigol a ddarperir gan y Cyngor, yn hytrach caiff ei gyfuno i helpu i dalu am yr holl wasanaethau rydym yn eu darparu.  

Mae’n rhaid i dalwyr y Dreth Gyngor dalu swm y dreth sydd yn ddyledus am eu heiddo ac ni allant ofyn am ostyngiad neu ddisgownt am nad ydyn nhw nac aelodau o’u teulu, wedi cyrraedd y cyfnod yn eu bywyd pan nad ydynt yn defnyddio’r holl wasanaethau a ddarperir gan y Cyngor. 

Bob blwyddyn, byddwn yn darparu dadansoddiad o ble ddaw incwm y Cyngor a sut caiff yr arian ei wario.   Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth. 

Sut gellir cyfiawnhau codi treth y cyngor 6.71%?

Mae gan y Cyngor ddyletswydd cyfreithiol i osod ‘cyllideb gytbwys flynyddol’ – mewn geiriau eraill mae’n rhaid i’r Cyngor fod yn bendant y bydd ganddynt ddigon o arian i wario ar bopeth y mae ei angen am y flwyddyn sydd i ddod.  Caiff y gyllideb flynyddol ei gosod ym mis Mawrth bob blwyddyn.  

Flwyddyn ar ôl blwyddyn mae cynghorau fel Sir y Fflint wedi wynebu gostyngiadau yn yr arian y mae wedi’i dderbyn gan y Llywodraeth.    Mae costau cyflenwadau megis ynni a thanwydd ar gyfer adeiladau a cherbydau yn codi.  Mae mwy a mwy o bobl angen gwasanaethau cymdeithasol bob blwyddyn, ac mae hyn yn costio mwy i'r Cyngor ei ddarparu.  

Doedd gan y Cyngor ddim dewis ond codi rhagor o arian trwy godi tâl am wasanaethau lleol a chodi’r Dreth y Cyngor er mwyn mantoli’r gyllideb. 

Yn ychwanegol at hyn mae ein hysgolion yn ei chael hi’n anodd mantoli eu cyllidebau.  Mae hyn oherwydd pethau fel cynnydd yn nhâl athrawon, a gytunir yn genedlaethol ac sy’n rhaid i ysgolion ei dalu, a chostau cynyddol ynni, cyflenwadau ac offer.      

Ni fyddai’r Cyngor fel rheol yn cynyddu Treth y Cyngor dros 5%, ond o ystyried y pwysau ar ein hysgolion rydym wedi rhoi 1.71% yn ychwanegol ar Dreth y Cyngor er mwyn codi £1.14m ar gyfer ysgolion. 

Hyd yn oed gyda’r cynnydd hwn, bydd Treth y Cyngor y mae preswylwyr Sir y Fflint yn ei dalu yn parhau i fod tua’r cyfartaledd a fydd yn cael ei godi ledled Cymru ac mae'n llawer is na siroedd cyfagos yn Lloegr.

Beth mae cynghorau tref a chymuned yn ei wneud a pham eu bod ar fy mil?

Mae yna 34 Cyngor Tref a Chymuned ar draws Sir y Fflint. Maent yn darparu neu’n cynnal amrywiaeth o wasanaethau cymunedol a chyfleustodau lleol gan gynnwys neuaddau pentref, caeau chwarae a mannau agored, seddi cyhoeddus, llochesi bws, goleuadau stryd a llwybrau troed.  Mewn rhai achosion gallant gyfrannu at y gost o redeg cyfleusterau lleol mwy megis canolfannau hamdden a llyfrgelloedd.

Mae’ch Cyngor Tref neu Gymuned yn derbyn mwyafrif ei arian trwy gyfran o’r Dreth Cyngor sy’n cael ei dalu gan breswylwyr sy’n byw o fewn ei ffiniau. Gelwir hyn yn ‘praesept' Treth y Cyngor ac mae’n seiliedig ar fand prisiad eich eiddo.

Mae swm y ‘praesept’ y mae eich Cyngor Tref neu Gymuned yn ei godi i’w weld ar eich bil cyffredinol Treth y Cyngor.    Mae Cyngor Sir y Fflint yn casglu’r holl arian sy’n ddyledus ac yna'n talu cyfran i'r Cyngor Tref neu Gymuned.

Mae’r Cyngor Sir yn cyhoeddi rhestr o praeseptau Cynghorau Tref a Chymuned bob blwyddyn.  Cliciwch yma i weld y rhestr. 

Beth mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn ei wneud a pham ei fod ar fy mil?

Cyfrifoldeb Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ar gyfer Gogledd Cymru yw darparu gwasanaeth heddlu effeithlon ac effeithiol ar gyfer ardal gogledd Cymru. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda’r Panel Heddlu a Throsedd i osod cyllideb ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru. Mae’r Llywodraeth yn darparu tua 75% o’r cyllid angenrheidiol i redeg gwasanaethau Heddlu yng Ngogledd Cymru; caiff y gweddill ei godi trwy Dreth y Cyngor.    Gelwir hyn yn ‘praesept' Treth y Cyngor ac mae’n seiliedig ar fand prisiad eich eiddo. 

Mae Cyngor Sir y Fflint, ynghyd â’r pum cyngor arall yng ngogledd Cymru, yn gyfrifol am gasglu Treth y Cyngor ar ran Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ar gyfer Gogledd Cymru.  

Mae maint y ‘praesept’ a godir gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn ymddangos ar eich bil Treth y Cyngor cyffredinol.  Mae Cyngor Sir y Fflint yn casglu holl dreth sy’n ddyledus ac yna’n talu cyfran Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd.

Bob blwyddyn mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd ar gyfer Gogledd Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth cyllideb am gynlluniau gwario Heddlu Gogledd Cymru.  Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Pwy sydd yn talu am Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru?

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn amddiffyn trigolion, busnesau a chymunedau ar draws y rhanbarth drwy wasanaethau ataliol ac ymatebol sy’n cynnwys diogelwch yn y cartref, atal tân a diffoddwyr, ymateb i wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd ac argyfyngau eraill gan gynnwys tywydd garw.   

Bob blwyddyn, mae’n rhaid i'r Cyngor Sir dalu mewn i gronfa gyfun y gwasanaeth tân i gwrdd â chostau blynyddol y Gwasanaeth Tân ac Achub.  Fe’i gelwir yn Ardoll blynyddol y gwasanaeth tân. Ar gyfer 2018-19 bydd rhaid i’r Cyngor dalu ardoll o £7.4m. 

Er nad oes ‘praesept’ ar gyfer y Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i’w weld ar eich bil Treth y Cyngor – mae rhan o’r Dreth Cyngor rydych yn ei dalu yn helpu'r Cyngor i ariannu’r gwasanaeth tân ac achub.  Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a rôl yr Awdurdod Tân.  

Beth i’w wneud os na allaf fforddio talu Treth y Cyngor?

Gall y sawl sy’n talu Treth y Cyngor ac sydd ar incwm isel, yn derbyn bydd-daliadau lles sy’n cynnwys Credyd Cynhwysol hawlio rhywfaint o gymorth tuag at dalu Treth y Cyngor.  Gelwir hwn yn Gynllun Gostyngiad Treth y Cyngor.  I weld os gallwch gael unrhyw gymorth cliciwch yma i ddefnyddio ein cyfrifiannell budd-daliadau. 

Os, wedi’i chi ddefnyddio’r cyfrifiannell budd-daliadau eich bod yn credu eich bod yn  gymwys am gymorth yna gallwch fynd i cliciwch yma a chyflwyno cais ‘ar-lein’ i CGTC.  

I helpu talwyr Treth y Cyngor i sicrhau fod ganddynt ddigon o arian rhwng y taliadau misol gall y Cyngor hefyd gynnig taliadau dros 12 mis yn lle 10 mis, neu cyn gymaint o fisoedd sydd ar ôl yn y flwyddyn i fyny at fis Mawrth 2019. Os ydych eisiau newid eich dull o dalu neu i drefnu taliadau dros 12 mis gallwch gysylltu â’r Tîm Treth y Cyngor.  Ebost: local.taxation@flintshire.gov.uk       Ffôn:  01352 704848. 

Oes gofyniad arnaf i dalu mwy am lai?

Gofynnir i dalwyr Treth y Cyngor i wneud cyfraniad ariannol mwy i ddiogelu gwasanaethau lleol ac i ddigolledu am y gostyngiadau mewn cyllid gan y Llywodraeth.

Mae Sir y Fflint wedi bod yn llwyddiannus mewn diogelu, a hyd yn oed datblygu rhai gwasanaethau lleol er gwaethaf gorfod lleihau cyfanswm yr arian y mae'n ei wario dros nifer o flynyddoedd o gyni cyllidol.

Felly, yr ateb yw eich bod yn talu mwy am yr un peth ac, mewn rhai meysydd gwasanaeth fel gofal cymdeithasol yn talu mwy am fwy.

Pam bod y Cyngor ddim yn gofyn i lywodraeth ganolog am gyllid ychwanegol yn hytrach na chynyddu cost Treth y Cyngor?

Mae Sir y Fflint yn aelod gweithgar o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLlC). – Mae’r CLlLlC yn cynrychioli cynghorau sir, awdurdodau’r parc cenedlaethol a’r awdurdodau tân ac achub yng Nghymru.    Mae’r Gymdeithas yn ymgyrchydd dylanwadol ar gyfer cyllid teg i gynghorau a gwasanaethau cyhoeddus eraill.

Sir y Fflint yw un o’r cynghorau sy’n derbyn y cyfanswm lleiaf o gyllid yn ôl  pob aelod o'r boblogaeth yng Nghymru. Am nifer o flynyddoedd rydym wedi bod yn rhedeg ymgyrch leol i gael cyllid tecach ar gyfer Sir y Fflint. Mae nifer o bobl leol a sefydliadau wedi cefnogi ein hymgyrch. Y gymuned ddiweddaraf i ddangos eu cefnogaeth i’n hachos oedd y gymuned ysgolion.   Rydym wedi bod yn cynrychioli ein hunain yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru a'r DU fel rhan o'r ymgyrch.

Pam bod bwlch yn y gyllideb, o le mae hyn yn dod? 

Mae’r rhan fwyaf o’n cyllid (66%) yn dod gan Llywodraeth Cymru ar ffurf grant.  

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r swm o arian rydym wedi bod yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn gostwng.  I bob 1% o ostyngiad yn ein grant gan Lywodraeth Cymru mae’r Cyngor yn colli £1.8miliwn.  Yn ogystal â cholli arian rydym wedi gorfod dod o hyd i arian o fewn ein hadnoddau presennol i dalu am bethau fel: 

  • cynnydd tâl y gweithlu – cytunwyd yn genedlaethol
  • costau cynyddol ynni, bwyd a thanwydd a gwasanaethau eraill
  • costau trethi cyflogwyr a gytunwyd arnynt yn genedlaethol megis yr Ardoll Treth Prentis
  • y costau sy’n gysylltiedig â deddfwriaeth newydd fel hawl i wasanaethau cymdeithasol
  • costau cynyddol gofal cymdeithasol

Yn ychwanegol at hyn rydym wedi gorfod defnyddio ein harian wrth gefn neu gynilion i gydbwyso cyllidebau blynyddoedd blaenorol – mae hyn yn creu bwlch yng nghyllideb y flwyddyn wedyn – gan y gellir ond gwario arian wrth gefn unwaith nid yw ar gael i’w gwario eto i gau’r bwlch.  

A fydd treth y cyngor yn codi eto fel hyn yn 2019-20? A pam felly? 

Bydd lefelau Treth y Cyngor y bydd angen i ni eu gosod yn y blynyddoedd i ddod – o 2019/20 ymlaen - yn dibynnu'n llwyr ar ddau beth:

  • y safle mae Llywodraeth Y DU yn ei gymryd ar ariannu gwasanaethau cyhoeddus
  • faint o’i gyllideb cyffredinol mae Llywodraeth Cymru yn penderfynu ei drosglwyddo i gynghorau lleol

Po fwyaf o arian mae cynghorau lleol yn ei dderbyn, po leiaf y byddwn yn gweld cynnydd uchel yn Nhreth y Cyngor.

Nid yw Sir y Fflint wedi gosod lefelau Treth y Cyngor ar gyfer 2019-20 eto. 

Pam ydw i’n gorfod talu ar gyfer casgliad fy ngwastraff gwyrdd?

Yn wahanol i wastraff cyffredinol y cartref nid oes gennym ddyletswydd i gasglu gwastraff gardd. Rydym yn darparu’r gwasanaeth hwn yn ôl ein disgresiwn ac i fodloni’r gofyn amdano. Nid yw pob preswyliwr yn gofyn am y gwasanaeth hwn.   

Mae hwn yn wasanaeth poblogaidd ac yn un y byddwn y parhau i'w ddarparu, fodd bynnag, ni allwn barhau i'w ddarparu am ddim.

Bydd tâl blynyddol o £30 (neu 58c yr wythnos) yn cynyddu incwm y gellir ei ailfuddsoddi mewn gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu. 

Nid oes rhaid i chi danysgrifio i’r gwasanaeth, a byddwch yn talu os ydych chi’n dewis tanysgrifio’n unig. Os byddai’n well gennych, gallwch fynd â gwastraff gardd i’ch Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref agosaf yn rhad ac am ddim, neu os oes gennych le, gallech ei gompostio adref. 

Os ydych chi'n dymuno ein bod yn parhau i gasglu eich gwastraff gardd am ffi o £30 y flwyddyn cliciwch yma am ragor o wybodaeth ar sut i gofrestru am y gwasanaeth neu ffoniwch 01352 701234. Gallwn hefyd gynnig cyngor i chi ar sut i gompostio gartref hefyd..

Pam y bydd yn rhaid i mi dalu dirwy o £75 am adael gwastraff ychwanegol wrth ymyl y bin du? 

Mae Cymru yn un o’r gwledydd sy’n perfformio orau ar gyfer ailgylchu yn y Byd ac mae trigolion Sir y Fflint eisoes yn ailgylchu 68% o wastraff y Sir.  

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau llym o ran faint o wastraff rydym ni’n cael ei gludo i safleoedd tirlenwi. Erbyn 2025 bydd gofyn i ni ailgylchu 70% o’n gwastraff cartref. Os nad ydym ni’n cyrraedd y targed hwn bydd yn rhaid i ni dalu dirwy. 

Po fwyaf y mae pobl yn ailgylchu, llai yw’r gwastraff sy’n cael ei roi yn y bin du. Does dim angen gadael bagiau gwastraff ychwanegol wrth ymyl y bin.

Mae yna bobl o hyd nad ydyn nhw’n ailgylchu prin unrhyw beth. Mae’n rhaid i bawb chwarae ei ran. Fedrwn ni ddim fforddio gwastraffu arian yn talu dirwyon Llywodraeth pan fo angen defnyddio’r arian hwnnw i ariannu gwasanaethau lleol hanfodol.  Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am wastraff ac ailgylchu.

Pam bod y ffioedd parcio yn codi eto?

Mae ffioedd parcio Sir y Fflint ymhlith yr isaf yn y wlad. 

Rydym ni’n bwriadu eu codi i lefel sy’n golygu bod yr arian rydym ni'n ei dderbyn gan ddefnyddwyr meysydd parcio yr un faint â’r arian rydym ni’n ei wario ar gynnal a chadw, rheoli a threfniadau gorfodi meysydd parcio. 

Bydd ein ffioedd yn dal yn isel o’u cymharu â siroedd eraill.

Ydi’r Cyngor yn bwriadu codi tâl arnom ni am bethau eraill?

Does gennym ni ddim bwriad eleni i godi tâl am wasanaethau eraill, ac eithrio casglu gwastraff gardd.

Does gen i ddim plant mewn addysg lawn amser, felly pam bod yn rhaid i mi dalu mwy o Dreth y Cyngor i gefnogi ysgolion?

Mae Treth y Cyngor yn cyfrannu at yr ystod lawn o wasanaethau rydym ni’n eu darparu, ac eithrio gwasanaethau tai cyngor a ariennir drwy renti. 

Mae’n rhaid i dalwyr Treth y Cyngor dalu'r dreth sy'n ddyledus ar gyfer eu heidio ac nid oes modd iddyn nhw ofyn am ostyngiad oherwydd nad ydyn nhw, neu aelodau o'u teulu, yn defnyddio rhai o wasanaethau'r Cyngor. 

Mae addysg a gofal cymdeithasol yn enghreifftiau o’r gwasanaethau a ddarperir gan gynghorau fel estyniad i’r Wladwriaeth Les. Mae pob un ohonom ni’n cyfrannu tuag atynt.

Roedd nifer o bobl sy’n poeni am ein hysgolion wedi dod i gyfarfod y Cyngor Sir ddydd Mawrth 20 Chwefror i ofyn nifer o gwestiynau.

Cliciwch yma i weld y gweddarllediad o’r cyfarfod a chlywed beth oedd ganddynt i'w ddweud a'r atebion a roddwyd.

Gallwch hefyd glicio yma i weld y datganiad llawn a roddwyd i Gynghorwyr Sir yn y cyfarfod.

Pam ein bod ni’n talu am gostau gofal cymdeithasol cynyddol pan nad ydym ni’n defnyddio’r holl wasanaethau?

Mae Treth y Cyngor yn cyfrannu at yr ystod lawn o wasanaethau rydym ni’n eu darparu, ac eithrio gwasanaethau tai cyngor a ariennir drwy renti. 

Mae’n rhaid i dalwyr Treth y Cyngor dalu'r dreth sy'n ddyledus ar gyfer eu heidio ac nid oes modd iddyn nhw ofyn am ostyngiad oherwydd nad ydyn nhw, neu aelodau o'u teulu, yn defnyddio rhai o wasanaethau'r Cyngor. 

Mae addysg a gofal cymdeithasol yn enghreifftiau o’r gwasanaethau a ddarperir gan gynghorau fel estyniad i’r Wladwriaeth Les. Mae pob un ohonom ni’n cyfrannu tuag atynt.

Darperir gwasanaethau llyfrgell a hamdden gan Aura Cymru bellach, nid y Cyngor, felly pam bod fy Nhreth Gyngor wedi codi?

Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae’r Cyngor wedi arbed £79m tra'n diogelu, lle y bo'n bosibl, y gwasanaethau hynny y mae trigolion a chymunedau yn eu gwerthfawrogi. 

Un o’r ffyrdd rydym wedi gwneud hyn yw drwy greu menter gymdeithasol newydd sbon, sef Aura Cymru, i ddarparu gwasanaethau hamdden, llyfrgell ac amgueddfa cynaliadwy. 

Drwy gymryd y gwasanaethau hyn allan o reolaeth uniongyrchol y Cyngor, rydym wedi mabwysiadu ymagwedd entrepreneuraidd sy’n ymatebol i ofynion masnachol y farchnad.

Mae’r Cyngor yn parhau i gefnogi’r gwasanaethau hyn yn ariannol drwy grant blynyddol, a fydd yn lleihau dros amser wrth i'r cwmni ddod yn fwy hunanddigonol yn ariannol, a thrwy raglenni buddsoddi penodol, sef £1.4m ar gyfer Canolfan Hamdden Yr Wyddgrug yn fwyaf diweddar – ewch i cliciwch yma am fwy o wybodaeth. Mae’r gefnogaeth barhaus hon yn helpu i gadw gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd ar agor. Pe bai’r Cyngor yn stopio neu’n lleihau nifer y gefnogaeth y mae'n ei darparu, byddai'n rhaid cau gwasanaethau.

Wrth i’r Cyngor barhau i reoli penderfyniadau anodd o ran y gyllideb, mae Aura Cymru yn cynnig ystod lawn o wasanaethau heb ostyngiad, gan ddiogelu gwasanaethau lleol ar gyfer pobl leol.    Ewch i www.Aura.Wales i weld yr ystod lawn o opsiynau aelodaeth a hyrwyddiadau arbennig sydd i'w cynnig.

Mae eich Treth Gyngor yn cyfrannu at yr ystod lawn o wasanaethau rydym ni’n eu darparu, ac eithrio gwasanaethau tai cyngor a ariennir drwy renti.

Mae’n rhaid i dalwyr Treth y Cyngor dalu'r dreth sy'n ddyledus ar gyfer eu heiddo ac nid oes modd iddyn nhw ofyn am ostyngiad oherwydd nad ydyn nhw, nac aelodau o'u teulu, yn defnyddio holl wasanaethau'r Cyngor, neu lle mae’r Cyngor wedi cymryd camau i ddiogelu gwasanaethau drwy eu darparu mewn ffordd wahanol.

Ydi Sir y Fflint yn codi tâl Treth y Cyngor sy’n uwch na chynghorau eraill yng Nghymru?

Tydi Treth y Cyngor wedi’i osod gan Sir y Fflint ddim yn uchel o’i gymharu â chynghorau eraill yng Nghymru. 

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi gorfod cynyddu Treth y Cyngor o 6.71% erbyn y flwyddyn nesaf (2018-19) er mae’r cyfartaledd lleol ar gyfer Band D o £1,177.60 yn dal i fod tua £64 yn llai na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru.

Ydi Sir y Fflint yn codi tâl Treth y Cyngor sy’n uwch na chynghorau eraill yn Lloegr?

Tydi Treth y Cyngor wedi’i osod gan Sir y Fflint ddim yn uchel o’i gymharu â chynghorau eraill yn Lloegr. 

Mae cynnydd y Cyngor o 6.71% ar gyfer y flwyddyn nesaf (2018/19) efallai yn uwch na’r cynnydd ‘canran’ a gyflwynwyd gan gynghorau cyfagos yn Lloegr. 

Er hynny mewn termau real mae Band D lleol Sir y Fflint o £1,177.60 yn dal i fod £237 yn is na’r Band D ar gyfartaledd yn siroedd cyfagos Lloegr fel Dwyrain Swydd Gaer, Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, Cilgwri, Halchdyn, Knowsley a Swydd Amwythig.

Ydi Llywodraeth Cymru yn rhoi'r un cyfanswm i bob Cyngor i ariannu gwasanaethau?

Mae’r swm o arian mae Sir y Fflint yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru yn seiliedig ar rywbeth a elwir yn Fformiwla Ariannu Llywodraeth Leol.   Mae’r Llywodraeth yn dyrannu cyfran o’i gyllideb gyffredinol i’r 'teulu’ llywodraeth leol ac yna mae hwn yn cael ei ddosbarthu i'r 22 cyngor mewn ‘cyfrannau’. Mae’r Fformiwla yn cymharu’n ddamcaniaethol ar yr hyn mae pob cyngor ei angen yn ôl maint ei boblogaeth, ei gyfoeth a thlodi a pha mor wledig ydyw.

Sir y Fflint yw’r chweched sir fwyaf yng Nghymru o ran maint poblogaeth.  Fodd bynnag, o dan y Fformiwla Ariannu, mae Sir y Fflint yn Gyngor sy’n derbyn arian isel fesul y pen o’r boblogaeth.    Yn ôl y ffordd mae grant Llywodraeth Cymru yn cael ei gyfrif, rydym yn safle 19 o 22 Cyngor yng Nghymru ar gyfer y swm o arian rydym yn ei dderbyn yn ôl y pen o'r boblogaeth - £114 fesul unigolyn yn is na chyfartaledd Cymru.   Os byddai Sir y Fflint yn derbyn cyfartaledd Cymru byddem tua £17-£18miliwn yn well allan yn ariannol.  Byddai hyn yn tynnu’r pwysau oddi ar Dreth y Cyngor.

Ydi’r holl Gynghorau yn ei chael yn anodd mantoli’r gyllideb neu a’i Sir y Fflint yn unig sy’n cael trafferthion?

Mae Cynghorau ar draws Cymru a Lloegr yn tynnu sylw at y risgiau a’r effeithiau o danwariant ar ôl blynyddoedd lawer o gyni cyllidol. Dim Cyngor Sir y Fflint yn unig sy’n dioddef. 

Am bron i ddegawd mae pob cyngor yn y DU wedi bod yn delio â chanlyniadau gostyngiadau o un flwyddyn i'r llall mewn cyllid gan y Llywodraeth. 

Bob blwyddyn trwy arloesi, meddwl am y dyfodol a chadw llygad barcud ar y gyllideb mae’r Cyngor trwy ryw wyrth wedi gallu mantoli’r gyllideb.   Bob blwyddyn mae’n mynd yn fwy anodd gyda llai o opsiynau ar ôl i wneud arbedion ariannol a cheisio diogelu'r gwasanaethau ar yr un pryd.

Beth y mae 'arbedion' yn ei olygu?

Rydym yn defnyddio’r term ‘arbedion’ i ddehongli’r ffyrdd gwahanol o ddod o hyd i atebion i gau’r bwlch yn y gyllideb.   Gall y rhain gynnwys pethau fel:
  • bod yn fwy effeithlon ac ‘arbed’ arian
  • lleihau'r cyfanswm o arian y bydd y cyngor yn ei roi i’w wasanaethau i wario
  • cynyddu cyfanswm yr arian sydd gennym i’w wario trwy godi tâl am rai o'n gwasanaethau

Trwy wneud pethau yn wahanol gallwn ‘arbed’ arian i’r cyngor a chadw’r gwasanaethau i fynd. 

Pa gamau y mae’r Cyngor wedi’u cymryd yn y blynyddoedd diwethaf i fantoli’r gyllideb?

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi torri nôl ar wariant o £79 miliwn yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. 

Rydym wedi cyflawni’r targed anferth hwn drwy wneud pethau fel:

  • Gostyngiad agos at 50% mewn swyddi uwch reoli a’u cefnogaeth 
  • Gostyngiad mewn swyddi rheolwyr canol
  • Gostyngiad o 40% mewn swyddi gweinyddol a chlercio a chostau
  • Lleihau holl gyllidebau gwasanaeth (heblaw Ysgolion a Gwasanaethau Cymdeithasol) 30%.   Rhai gymaint â 45%
  • 20% o ostyngiad mewn swyddfeydd
  • Gwaredu dau adeilad mawr ar gyfer swyddfeydd
  • Wedi gwagio dau o’r pedwar bloc o swyddfeydd yn Neuadd Y Sir
  • Uno chwech depo yn un cyfleuster newydd a mwy effeithiol yn Alltami
  • Arbed arian yn y modd yr ydym yn prynu a gyrru cerbydau’r Cyngor
  • Newid y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau– Hamdden a Llyfrgelloedd Aura, cwmni newydd a grëwyd ac sy’n cael ei redeg gan gyn weithwyr y Cyngor 
  • Mae NEWydd yn gwmni masnachu sy’n eiddo’r Cyngor ac yn darparu gwasanaethau glanhau ac arlwyo
  • Gweithio gyda chymunedau lleol lle bu diddordeb mewn rhedeg gwasanaethau lleol e.e. Cambrian Aquatics yn y pwll nofio yng nghanolfan hamdden Cei Connah a Threffynnon
  • Rhannu adeiladau gyda phartneriaid fel Heddlu Gogledd Cymru yn Nhreffynnon a’r Fflint
  • NEW Homes - cwmni masnachu sy’n eiddo i’r Cyngor sy’n darparu cartrefi i bobl leol
  • SHARP (Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol)  yn adeiladu tai Cyngor newydd a thai fforddiadwy
  • Double Click - menter gymdeithasol newydd sy'n darparu gwasanaethau cymdeithasol i oedolion â phroblemau iechyd meddwl ac anawsterau dysgu
  • Integreiddio gwasanaethau gyda chynghorau eraill yn y rhanbarth i rannu costau e.e. addysg
  • Caffael neu swmp-brynu gyda chynghorau eraill i gael gwell bargen e.e. caledwedd cyfrifiadurol  

Pam nad yw'r Cyngor yn symud allan o Neuadd y Sir a defnyddio gofod swyddfa lai a rhatach?

Ers 2011 rydym wedi lleihau cyfanswm gofod llety swyddfa 20%.   Rydym wedi cael gwared â dau adeilad swyddfa.   Mae chwe depo wedi uno’n un prif gyfleuster yn Alltami.   Rydym wedi gwneud y defnydd gorau o ofod yn adeiladau ein swyddfeydd drwy weithio'n wahanol, yn fwy hyblyg a mwy symudol.  

Mae dau o’r pedwar bloc swyddfa yn Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug yn wag ac rydym yn y broses o lunio cynlluniau ar gyfer eu dymchwel.

Pam na all y Cyngor ddefnyddio’r holl arian sydd ganddo yn ei gronfa arian wrth gefn i helpu fantoli’r gyllideb?

Mae’r Cyngor yn cadw arian wrth gefn – yn debyg i gynilo – er mwyn bod yn barod i gostau annisgwyl ac argyfyngau. 

Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r Cyngor wedi defnyddio ei arian wrth gefn i helpu fantoli’r gyllideb.  Yn y dair blynedd diwethaf yn unig mae £5.7 miliwn wedi cael ei ddefnyddio o'r arian wrth gefn i gau y bwlch yn y gyllideb.  Mae £1.945 miliwn o’r arian wrth gefn wedi cael ei ddefnyddio i fantoli cyllideb 2018/19. 

Nid yw’r Cyngor yn cadw swm mawr o arian wrth gefn ac fel arbedion gellir ond eu defnyddio unwaith.  Er enghraifft, er bod y £1.945miliwn o arian wrth gefn a wariwyd eleni wedi helpu i gau’r bwlch yn y gyllideb ar gyfer 2018/19, heb arian ychwanegol o unman arall roedd yna fwlch o £1.945miliwn yn parhau yn y gyllideb ar gyfer 2019/20 ond fydd yna ddim arian wrth gefn i dalu amdano.

Os ydych yn ceisio arbed arian pam eich bod yn rhoi codiad cyflog i Gynghorwyr?

Mae panel annibynnol o’r enw Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol  wedi argymell y dylai’r holl Gynghorwyr yng Nghymru gael cynnydd yn eu lwfans blynyddol o 1.49%. 

Roedd y Cyngor yn gwybod am hyn peth amser yn ôl ac yn gallu ei gyfrif wrth osod y gyllideb ar gyfer 2018/19. 

Mae lwfans sylfaenol cynghorydd yn llawer is na chyflog cyfartalog cenedlaethol.