Alert Section

Gwasanaethau'r Cyngor a'r tywydd


Rhybudd o eira

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd o eira yn Sir y Fflint.

Gallwch dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf yma.

Cau Ysgolion

Gwnaed penderfyniad i gau holl ysgolion Sir y Fflint dydd Iau, 8 Chwefror 2024. Oherwydd hyn, ni fydd cludiant ysgol yn weithredol yfory.

Sir y Fflint yn Cysylltu

Bydd pob canolfan Sir y Fflint yn Cysylltu ar gau dydd Iau, 8 Chwefror 2024.

Gwastraff ac ailgylchu

Y bwriad yw i’r holl gasgliadau barhau yn ôl yr arfer. Fodd bynnag byddwch yn ymwybodol y gallai fod yna rywfaint o amhariad.

Bydd pob safle Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Sir y Fflint ar gau dydd Iau, 8 Chwefror 2024.

Biniau graean

Mae gennym ni tua 500 o finiau/tomenni ar draws y sir.  Rydym wedi eu rhoi mewn lleoedd lle rydym yn gwybod y gallai fod yna broblemau, fel bryniau serth, troadau llym a chyffyrdd anodd.

Nid pwrpas y biniau yw darparu graean ar gyfer troedffyrdd a thramwyfeydd preifat. Defnyddiwch nhw ar gyfer troedffyrdd yn unig a lle mae yna broblem ar y ffordd. Gellir prynu graean yn y rhan fwyaf o siopau DIY/nwyddau metel neu fasnachwyr adeiladu.

Clirio Troedffyrdd

Dim ond wedi i’r ffyrdd a gaiff eu blaenoriaethu gael eu clirio y bydd ardaloedd palmantog yn cael eu trin mewn amodau difrifol o rew ac eira. Y rheswm am hyn yw i sicrhau fod adnoddau’n cael eu defnyddio mor effeithiol â phosibl.

Mae adnoddau yn cael eu defnyddio i drin troedffyrdd unwaith y bydd eira wedi setlo neu yn ystod cyfnodau hir o rew ar sail blaenoriaeth mewn lleoliadau gan gynnwys:

  • Llwybrau troed yng nghanol trefi ac ardaloedd siopa
  • Llwybrau troed ger adeiladau dinesig
  • Priffyrdd cyhoeddus ger ysbytai
  • Priffyrdd cyhoeddus ger cartrefi preswyl/fflatiau henoed
  • Priffyrdd cyhoeddus ger canolfannau gofal dydd
  • Priffyrdd cyhoeddus ger ysgolion (yn ystod y tymor ysgol yn unig)
  • Pontydd troed
  • Safleoedd bws

Clirio Ffyrdd

Yn ystod cyfnodau o dywydd garw, rydym yn graeanu ac yn clirio eira o 414 milltir o ffyrdd a gaiff eu blaenoriaethu ar hyd a lled Sir y Fflint. Maent yn cael eu dewis er mwyn cynnal cysylltiadau cludiant ar gyfer cynifer o gymunedau â phosibl. Maent yn cyfrif am tua 50% o briffyrdd y Sir ac yn cynnwys o leiaf un ffordd fynediad i bob cymuned.

I gael fwy o wybodaeth am glirio ffyrdd, cliciwch yma.


Y Cyfryngau Cymdeithasol

Facebook Cyngor Sir y Fflint

Cewch y wybodaeth ddiweddaraf ar X (Twitter)

@CSyFflint

@HeddluGogCymru

@NorthWalesFire

@NatResWales