Alert Section

Blog Sir y Fflint Ddigidol

Newyddion diweddaraf Sir y Fflint Ddigidol

Rhagfyr 2022


Mae dipyn o amser wedi mynd heibio ers fy mlog diwethaf, ond nid yw’n golygu nad oes dim wedi bod yn mynd ymlaen.  Mae llawer o brosiectau cyffrous ar y gweill ac rydym yn bwriadu darparu mwy o wybodaeth amdanynt cyn gynted ag y gallwn.

Yn y cyfamser, roeddwn eisiau rhannu’r prosiect hwn sydd wedi’i gwblhau ond sydd yn dangos cydweithio gwych fel tîm rhwng ein swyddogion Dechrau’n Deg yn y gwasanaethau cymdeithasol a’n tîm TG.  Mae’r prosiect hwn wedi gwneud gwir wahaniaeth i bobl ifanc a’u rhieni/ gofalwyr yn ardaloedd Treffynnon a Maes Glas.


Prosiect Dechrau’n Deg

Mae cyfleusterau Dechrau’n Deg, sydd ar gael i rieni cymwys, yn cynnig gofal plant o ansawdd am ddim i blant dwy i dair oed, cymorth i rieni, gwasanaeth ymwelydd iechyd gwell a chymorth ar gyfer datblygu iaith gynnar. Maent yn helpu teuluoedd i ofalu am iechyd a lles eu plant. Mae hyn yn cynnwys rhaglenni datblygu iaith a rhianta, cyfleusterau clinig i fabanod a phlant, a chyfleusterau creche.

Mae gan Ddechrau’n Deg bedair canolfan yn Sir y Fflint - Cei Connah, Aston, y Fflint ac ers 2020, yn Nhreffynnon.

Flying Start 3

Roedd tri o’r rhain yn ganolfannau a oedd yn ymwneud â chleientiaid.  Cyn 2020, roedd y tîm a oedd yn gweithio yn ardaloedd Nhreffynnon, Bagillt a Holway wedi eu lleoli yng Nghanolfan Fusnes Maes Glas, a gan mai canolfan fusnes oedd fan hyn nid oedd plant yn cael mynd i mewn, felly roedd rhaid cynnal yr holl weithgareddau mewn lleoliadau eraill.

Cafodd y Cyngor gyllid gan Lywodraeth Cymru i adnewyddu Canolfan Gymunedol ac Ieuenctid Treffynnon, ac roedd modd rheoli’r ganolfan yn gyfan gwbl.

Fodd bynnag, oherwydd oedran yr adeilad nid oedd unrhyw gyswllt â’r rhyngrwyd na chyfleusterau wi-fi, ac ar ddechrau’r pandemig, roedd yn ymddangos y byddai oedi yn hyn.  Ond roedd rhaid gwario’r cyllid grant o fewn amser penodol.   

Flying Start 2

Bu i dîm TG Sir y Fflint weithio’n galed iawn i wireddu cael y cysylltiad â’r rhyngrwyd.  Bu iddynt gysylltu o bell gyda sefydliadau partner, gan gynnwys BT, a gweithio mewn amodau anodd, oherwydd cyfyngiadau COVID, i sicrhau bod yr holl waith cebl a seilwaith, gan gynnwys cylchedau a rhwydweithiau newydd, wi-fi a theleffoni mewn lle.

Yn ogystal cafodd y ganolfan ei hadnewyddu a’i hail-addurno, ac mae bellach yn weithle i 16 o bobl ac yn gartref i gyfleusterau gofal plant dan yr un to.  Mae’r ganolfan hefyd yn ganolog i gymuned Treffynnon ac o fewn cyrhaeddiad agos i rieni.

Cyflawnwyd y prosiect fel rhan o Strategaeth Ddigidol y Cyngor, ac yn arbennig, thema Partneriaeth Ddigidol sydd wedi anelu i wella a datblygu systemau digidol a thechnolegau a fydd yn cysylltu pobl a lleoedd.

Mae thema Partneriaeth Ddigidol yn cefnogi:

  • Cyflenwi gwasanaethau mwy cyfleus
  • Rhannu gwybodaeth ar draws sefydliadau
  • Rhoi gwell gwerth am arian
  • Ffyrdd gwell a newydd o weithio

Flying Start 1


Mae gennym nifer o “ganolfannau” ar ein gwefan sydd yn dod â gwybodaeth ddefnyddiol ynghyd i helpu a chefnogi ein preswylwyr - ewch i weld yr un diweddaraf yma Canolfan “Cost Byw”.

Cofion gorau,


Cyng Billy Mullin, 
Aelod Cabinet Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol gan gynnwys Iechyd a Diogelwch ac Adnoddau Dynol 

  • Llun o'r Cynghorydd Billy Mullen
  • Cyng Billy Mullin 
  • Aelod Cabinet Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol gan gynnwys Iechyd a Diogelwch ac Adnoddau Dynol

  • Sir y Fflint Canolbwynt Digidol
  • Mynd Ar-lein a Cefnogaeth Ddigidol
  • Cadw'n Ddiogel Ar-lein
  • Cymorth a Chyngor Digidol
  • Y Gymuned Ddigidol
  • Adnoddau Iechyd a Lles
  • Cyngor Digidol
  • Digwyddiadau a Gweithgareddau Digidol
  • Gwirfoddolwyr Digidol