Alert Section

Niwsans Sŵn


Mae NIWSANS yn weithred neu anweithred afresymol sy’n effeithio arnoch yn hanfodol neu’n sylweddol yn eich eiddo, mewn ffordd sy’n tarfu ar eich mwynhad a’ch cysur yn rheolaidd. Gellir galw digwyddiadau anaml yn niwsans os yw’r effaith yn arbennig o ddifrifol.

Mathau cyffredin o Niwsans Sŵn yw:
Cerddoriaeth neu sŵn teledu uchel
Cŵn yn cyfarth
Sŵn o safleoedd diwydiannol neu fasnachol

Synau na allwn ymdrin â nhw yw:
Plant neu bobl ifanc yn achosi annifyrrwch
Clecian drysauSŵn traffig
Sŵn awyrennau (sifil neu filwrol)


Cofrestru’ch pryderon.
Os ydych yn gwybod pwy sy’n gyfrifol am achosi’r broblem, yn aml gall mynd yn syth atynt mewn ffordd gyfeillgar ac esbonio sut yr ydych yn cael eich effeithio fod yn help.  Os nad ydych yn teimlo fod hyn yn bosibl neu os ydych eisoes wedi gwneud hynny ac wedi bod yn aflwyddiannus, cofrestrwch eich pryderon gyda’r Tîm Rheoli Llygredd.

PWYSIG: Cofiwch gynnwys cyfeiriad lle mae'r niwsans sŵn yn digwydd:


E-bost: pollution.control@flintshire.gov.uk
Ffon: 01352 703440