Alert Section

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (No. 5) (Cymru) (Diwygio) 2020


https://businesswales.gov.wales/tourism/covid-19-frequently-asked-questions

Busnesau yn Cydymffurfio

Mae cyfran helaeth o fusnesau wedi cael eu heffeithio gan y Rheoliadau uchod. Bydd gofyn i risgau, a bydd angen i eraill gydymffurfio gyda’r rheolau cadw pellter cymdeithasol. Mae’r ddolen isod i wefan Llywodraeth Cymru yn darparu rhagor o wybodaeth ar bwy a effeithir:
https://llyw.cymru/lefel-rhybudd-0-canllawiau-i-gyflogwyr-busnesau-sefydliadau


Mae'n rhaid i Fusnesau roi sylw i’r canllaw a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o ran cymryd mesurau rhesymol i sicrhau bod cadw pellter yn cael ei gynnal. Gellir dod o hyd i’r canllaw isod:
https://llyw.cymru/cymryd-pob-cam-rhesymol-i-gynnal-pellter-corfforol-yn-y-gweithle?_ga=2.82936022.1329503183.1587627072-316786765.1558606806

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi sefydlu rhif ffôn a chyfeiriad e-bost arbennig os bydd angen cyngor ar fusnesau yn ymwneud â'r Rheoliadau, neu os oes gan unrhyw un (aelodau o'r cyhoedd neu'r gymuned fusnes) nad yw busnes yn cydymffurfio gyda'r Rheoliadau. Y manylion cyswllt yw:

  • e-bost: covidbusinesscompliance@flintshire.gov.uk
  • ffôn: 01352 703399


Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 – Cydymffurfio mewn perthynas â’r Coronafeirws

Bydd cydymffurfio gyda chyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru yn sicrhau cydymffurfedd gyda dyletswyddau cyffredinol dan Adran 2 a 3 y ddeddfwriaeth uchod (ynghylch cadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo yn aml gyda sebon; glanhau a diheintio gwrthrychau ac arwynebau a gyffyrddir yn aml, ac ati).

Mae Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 yn gofyn bod busnesau yn ystyried risg y Coronafeirws i weithwyr ac aelodau’r cyhoedd.

Am ragor o gyngor a chanllawiau ewch i www.hse.gov.uk neu fel arall cysylltwch â Thîm Gorfodi Iechyd a Diogelwch Sir y Fflint gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost canlynol: health.safety@flintshire.gov.uk

 

Llety i Weithwyr Allweddol

Mae’r Rheoliadau yn glir y dylai pob llety gwyliau aros ar gau nes y clywir yn wahanol, ac eithrio bod esempt penodol neu fod cais a chaniatâd gan Lywodraeth Cymru neu’r cyngor lleol.

Mae’n rhaid i unrhyw ddarparwr llety yn Sir y Fflint sydd eisiau cynnig llety i weithwyr allweddol ofyn am awdurdodiad gan y Cyngor. Os yw busnes eisoes yn darparu llety i weithwyr, dylent ein hysbysu cyn gynted â phosib.

Ni ddylid darparu unrhyw lety gwyliau i ymwelwyr dan unrhyw amgylchiadau yn ystod y cyfnod presennol hwn o argyfwng. Bydd unrhyw unigolyn neu fusnes nad ydynt yn cydymffurfio yn cyflawni trosedd. 

Os ydych chi’n fusnes sydd angen awdurdodiad, cwblhewch y ffurflen gofrestru ar-lein gan ddefnyddio’r ddolen ganlynol:

Ffurflen Gofrestru

Fel arall, gallwch anfon e-bost at: covidaccommodation@flintshire.gov.uk

Mae canllaw ar gyfer pobl sy’n rhedeg llety gwyliau wedi cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Mae’n trafod gwestai, llety gwestai a llety hunanddarpar: 

 

Llwybrau Troed a Hawliau Tramwy

Mae’r Rheoliadau hefyd yn cyfeirio at lwybrau troed a hawliau tramwy. Gellir dod o hyd i lwybrau troed sydd wedi cau wrth ddilyn y ddolen ganlynol:

https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Streetscene/Public-rights-of-way.aspx 

Os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau, cysylltwch â’n tîm Hawliau Tramwy. Eu manylion yw:

  • e-bost: publicrightsofway@flintshire.gov.uk
  • ffôn: 01352 704612

Hysbysiadau Gwella a Hysbysiadau Cau a roddwyd dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020:

Hysbysiad Gwella Eiddo: Cyfarwyddwr Clive Barber Shop Shotton

Gwybodaeth Ddefnyddiol Arall


Diogelwch Bwyd

Os ydych chi’n rhedeg busnes bwyd sydd wedi newid i weithredu fel safle prydau i fynd neu wasanaeth dosbarthu, mae canllaw'r Asiantaeth Safonau Bwyd ar gael ar:


https://www.food.gov.uk/cy/canllawiau-busnes/diogelwch-bwyd-ar-gyfer-busnesau-syn-dosbarthu-bwyd 
https://www.food.gov.uk/cy/canllawiau-busnes/gwerthu-o-bell-archebu-drwyr-post-a-dosbarthu

Os hoffech chi ragor o gyngor, cysylltwch â’n tîm Diogelwch Bwyd a Safonau Bwyd ar:

  • e-bost: food.safety@flintshire.gov.uk
  • Rhif Ffôn: 01352 703390

 

Twyll

Mae Safonau Masnach yn rhybuddio trigolion i fod yn wyliadwrus o sgamiau yn ymwneud â Covid-19.

Mae nifer o sgamiau o’r fath wedi cael eu hadrodd yn barod, ond os ydych yn derbyn e-bost neu neges destun mewn perthynas â Covid-19 sy’n gofyn am unrhyw fanylion personol, neu fanylion banc, hyd yn oed os yw’n honni ei fod yn dod gan Asiantaeth y Llywodraeth anwybyddwch y neges. Ni fydd asiantaethau’r Llywodraeth yn gofyn am y wybodaeth yn y modd hwn.

Mae cymorth yn y frwydr yn erbyn negeseuon e-bost gwe-rwydo, bellach wedi dod gan asiantaeth cudd-wybodaeth Pencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y DU.  Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, cangen o asiantaeth cudd-wybodaeth, wedi lansio gwasanaeth i adrodd am negeseuon e-bost amheus, gyda chais syml i’r cyhoedd: anfonwch unrhyw negeseuon e-bost amheus i report@phishing.gov.uk, a bydd system sganio awtomatig y Ganolfan yn gwirio am negeseuon e-bost sgiâm a chael gwared ar unrhyw safleoedd troseddol ar unwaith.

Dylech adrodd am unrhyw sgamiau neges destun  a sgamiwyr sy’n mynd o ddrws i ddrws i’r Safonau Masnach ar trading.standards@flintshire.gov.uk neu drwy ffonio 0808 223 1133 ar gyfer y gwasanaeth Saesneg neu 0808 223 1144 ar gyfer gwasanaeth Gymraeg a bydd rhybuddion yn cael eu cyhoeddi ar y safle hwn ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae arweiniad pellach ar gael yn:

https://www.gov.uk/government/news/be-vigilant-against-coronavirus-scams