Alert Section

Cronfa Waddol Cymuned


Cronfa Waddol Cymuned Sir y Fflint

 Amcanion: Mae Cronfa Waddol Cymuned Sir y Fflint yn cefnogi’r themâu hyn::

  • Datblygiad addysgol i blant ysgol a phobol ifanc.
  • Datblygiad addysgol i blant yn y blynyddoedd cynnar.
  • Prosiectau ysgol sydd yn cefnogi materion iechyd a bywyd iach.
  • Prosiectau cyrhaeddiad addysgol, yn cynnwys addysg gydol oes.
  • Prosiectau cynhwysiad addysgol gyda chymorth i fyfyrwyr, yn cynnwys: bwrsarïau, cymorth teithio, chwaraeon, gwobrau cyrhaeddiad a defnydd addysgol neu adnoddau eraill.

Ni fydd unrhyw gais am grant a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae’n rhaid i bob grŵp lenwi ffurflen gais ar-lein a gellir cael mynediad ati drwy wefan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru.

Os ydych yn gwneud cais fel unigolyn, bydd angen i chi lawr lwytho fersiwn dogfen Word o’r ffurflen gais sydd ar gael ar wefan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru

Mae modd gweld rhestr o sefydliadau a gaiff eu cefnogi gan Gronfa Waddol Gymunedol Sir y Fflint trwy wefan y Sefydliad Cymunedol Cronfeydd Sir y Fflint neu trwy’r Adroddiadau Effaith isod:

Adroddiad Effaith Cronfeydd Sir y Fflint - Rhagfyr 2020

Adroddiad Effaith Cronfeydd Sir y Fflint - Hydref 2022