Alert Section

Ymgynghoriad ar Ddarparu Cymorth yn ôl yr Angen


Fel rhan o raglen Cefnogi Pobl, mae Sir y Fflint ar hyn o bryd yn comisiynu amrediad o wasanaethau Cymorth yn ôl yr Angen gan nifer o wahanol sefydliadau, gyda’r nod o helpu pobl gadw a chynnal eu tenantiaethau.  Rydym nawr yn cymryd y cyfle i adolygu ac ystyried:

  • cwmpas y gwasanaethau hyn, er enghraifft, a ydyn nhw’n diwallu anghenion defnyddwyr y gwasanaeth; a
  • sut rydym ni’n comisiynu’r gwasanaethau hyn.  

Rydym yn ymgynghori i weld a yw’r cymorth yn ôl yr angen rydym ni’n i ddarparu ar hyn o bryd yn:

  • cyrraedd y meini prawf a’r flaenoriaeth ar gyfer y rhaglen Cefnogi Pobl; ac yn
  • diwallu anghenion ein cymunedau a defnyddwyr ein gwasanaethau.

Gofynnwn i chi dreulio ychydig o amser yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn a rhannu’ch sylwadau â ni.