Ydych chi wedi ystyried eiddo rhentu preifat? Mae rhai Gwerthwyr Tai yn cynnig gwasanaeth ‘rhentu / gosod’ ac rydym yn eich annog i edrych ar yr hyn sydd ganddynt i’w gynnig. Fel arall, gallwch edrych ar dai ar wefan Rightmove. Os yw’r blaendal y disgwylir i chi ei dalu gydag eiddo rhentu preifat yn eich rhwystro, mae'n bosibl y byddwch yn gymwys i wneud cais am y Cynllun Bond. Mae’n bosibl hefyd y bydd y tîm Datrysiadau Tai yn gallu rhoi cyngor ac arweiniad i chi ynglŷn â sut i gyllidebu’ch arian. Cysylltwch â’r Tîm ar 01352 703777.
Cartrefi Gogledd-ddwyrain Cymru (NEW Homes)
Mae Cartrefi Gogledd-ddwyrain Cymru (NEW Homes) yn Sir y Fflint yn gwmni preifat a gyfyngir gan gyfrannau a’r Cyngor sy’n berchen arno i gyd. Mae’r cwmni yn rheoli’r tai rhent fforddiadwy newydd a adeiladwyd gan ddatblygwyr yn Sir y Fflint; ac maent hefyd yn cynnig gwasanaeth asiant gosod i landlordiaid lleol.
Mae www.flintshirehousing.co.uk yn cynnig gwybodaeth am dai i’w rhentu a thai fforddiadwy yn Sir y Fflint ac mae’n anelu at helpu’r rheiny sy’n chwilio am gartref i wneud dewisiadau am yr opsiwn mwyaf addas iddyn nhw. Mae hefyd yn cynnig cyfle i landlordiaid hysbysebu eu heiddo ac mae’n darparu gwybodaeth am safonau gofynnol tai, opsiynau achredu a materion eraill.