Alert Section

Covid-19 Gwasanaeth Cofrestru Sir y Fflint


Diweddariad 22/12/21

Rydym yn dilyn cyngor ac arweiniad Llywodraeth Cymru ar gadw pellter cymdeithasol ac ymddygiad y cyhoedd.  Cawn ein harwain gan lefelau rhybudd a chyfyngiadau cyfredol Llywodraeth Cymru a allai newid ar fyr rybudd. 

Helpwch ni i gadw pawb yn ddiogel:

  • Gwnewch brawf llif unffordd cyn ymweld â’r Swyddfa Gofrestru
  • Os ydych chi, neu unrhyw westai yn y seremoni â symptomau, dylid hunanynysu ac archebu prawf PCR
  • Gwisgwch orchudd wyneb wrth ymweld â’r Swyddfa Gofrestru oni bai eich bod wedi’ch eithrio. 

Priodas a Phartneriaeth Sifil
Rydym wedi cyflwyno cyfyngiadau ar nifer y bobl a ganiateir yn ein hystafelloedd seremoni ar un adeg i gydymffurfio â’r asesiad risg i ddiogelu cwsmeriaid a staff. 

Y nifer fwyaf o bobl a ganiateir ym mhob stafell yw:

  • Swyddfa Gofrestru – 6 unigolyn (uchafwm 2 westai/tystion)
  • Ystafell Seremonïau – 44 o bobl (uchafwm 40 o westion)

Mae’r ffigyrau hyn yn cynnwys dau Gofrestrydd a’r cwpl. 

Genedigaethau 
Mae darpariaeth wedi’i wneud ar gyfer cofrestru genedigaethau i’w gwneud yn rhannol dros y ffôn.  I gwblhau’r cofrestriad, mae'n rhaid i riant/ rieni lofnodi’r gofrestr yn bersonol yn y Swyddfa Gofrestru a byddwn yn trafod y trefniadau ar gyfer hyn pan fyddwn yn trefnu’r apwyntiad.  Gallwn ond cofrestru babanod sy’n cael eu geni yn Sir y Fflint. 

Ar gyfer cofrestru babanod wedi’u geni mewn gwledydd eraill, cysylltwch â’r Swyddfa Gofrestru yn y sir lle ganwyd y babi h.y.

  • Ysbyty Glan Clwyd - 01824 708100
  • Ysbyty Countess of Chester – 01244 972668
  • Ysbyty Maelor Wrecsam - 01978 298997

I wneud apwyntiad am gofrestriad dros y ffôn ffoniwch y Swyddfa Gofrestru ar 01352 703333.

Marwolaethau a Marw-enedigaethau 
Mae darpariaeth wedi’i wneud ar gyfer cofrestru marwolaethau i’w gwneud yn rhannol dros y ffôn. Mae’r Gwasanaeth Cofrestru hefyd yn gweithio’n agos gydag ymarferwyr iechyd i rannu gwybodaeth yn electronig, i gael gwared ar y gofyniad i deuluoedd mewn profedigaeth ddod i’r Swyddfa Gofrestru yn ystod yr argyfwng cyfredol.

I wneud apwyntiad am gofrestriad dros y ffôn ffoniwch y Swyddfa Gofrestru ar 01352 703333.