Alert Section

Hysbysiad Prosesu Teg Cyngor Sir y Fflint


Cynllun Teithio Rhatach Cenedlaethol Cymru 

Cyngor Sir y Fflint yw’r ‘rheolwr data’ ar gyfer eich gwybodaeth bersonol. Mae hyn yn golygu mai ni sy’n penderfynu diben a modd defnyddio eich data fel rhan o weinyddu Cynllun Teithio Rhatach Cenedlaethol Cymru. 

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, gwelwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan

Mae Cyngor Sir y Fflint yn defnyddio eich gwybodaeth i weinyddu Cynllun Teithio Rhatach Cenedlaethol Cymru ac mae’n gallu gwneud hynny oherwydd rhwymedigaeth gyfreithiol sydd arnom yn unol â Chanllawiau’r Adran Drafnidiaeth a Deddf Trafnidiaeth 2008. 

Yn achos data personol yn y categorïau sensitif / arbennig, rhesymau o fudd cyhoeddus sylweddol yw sail gyfreithiol ein prosesu, sef rhwymedigaethau Cyngor Sir y Fflint dan Ddeddf Trafnidiaeth 2008. 

Mae’r categorïau gwybodaeth sy’n cael eu prosesu’n cynnwys eich enw, cyfeiriad, cod post, ffotograff, dyddiad geni, rhif ffôn cysylltu, cyfeiriad e-bost, tystiolaeth o breswylfa, prawf oedran a’ch llofnod. 

Fe all gwybodaeth amdanoch gael ei rhannu gyda phartneriaid fel yr Adran Drafnidiaeth at ddibenion gweinyddu Cynllun Teithio Rhatach Cenedlaethol Cymru. Bydd eich manylion yn cael eu cadw am flwyddyn ar ôl darfod neu dynnu’n ôl y cerdyn. 
Gofyniad cyfreithiol Deddf Trafnidiaeth 2008 sydd wedi pennu cadw am y cyfnod hwn i hwyluso Cynllun Teithio Rhatach Cenedlaethol Cymru. 

Mae RhDDC yn rhoi’r hawliau canlynol i chi o ran eich data personol: 

  • Hawl i gael gwybod sut mae eich data personol yn cael eu prosesu
  • Hawl mynediad at y data personol a ddaliwn amdanoch, sy’n cynnwys darparu copïau o’r wybodaeth i chi cyn pen mis ar ôl derbyn cais.  Cawn godi tâl rhesymol am ddarparu’r wybodaeth hon ar sail costau gweinyddol ymateb (h.y. llungopïo, tâl post, ac ati).
  • Hawl i gywiro unrhyw ddata anghywir neu anghyflawn a ddaliwn amdanoch
  • Hawl i ddileu, hefyd yn dwyn yr enw ‘hawl i gael eich anghofio’, dan yr amgylchiadau canlynol:
    - Nad oes mwyach angen gwybodaeth amdanoch at y diben y cafodd ei gasglu:
    - Eich bod yn tynnu’n ôl eich caniatâd:
    - Eich bod yn gwrthwynebu i Gyngor Sir y Fflint yn prosesu gwybodaeth amdanoch (ac nad oes unrhyw fudd dilys gor-redol dros barhau’r prosesu:
    - Bod Cyngor Sir y Fflint wedi torri’r RhDDC wrth brosesu chi data:
    - Bod rhwymedigaeth gyfreithiol i ddileu’r data (fel Gorchymyn Llys).
  • Hawl i gyfyngu ar brosesu, sy’n cyfyngu ar beth all Cyngor Sir y Fflint ei wneud gyda’ch gwybodaeth.
  • Hawl i hygludedd data, pan fo unrhyw brosesu awtomatig o’ch gwybodaeth ar sail eich caniatâd neu fel rhan o gontract ar gael i chi ei ailddefnyddio.
  • Hawl i wrthwynebu marchnata uniongyrchol neu unrhyw brosesu ar sail gwneud gwaith er lles y cyhoedd / arfer awdurdod swyddogol neu at ddibenion ymchwil ac ystadegau gwyddonol / hanesyddol.
  • Hawliau mewn cysylltiad â phenderfynu a phroffilio awtomatig, pan fo penderfyniad a wnaed gan gyfrifiadur yn cael effaith gyfreithiol neu arwyddocaol arnoch chi. 

Mae gennych hawl i gwyno ynghylch prosesu eich data personol wrth y Comisiynydd Gwybodaeth, awdurdod goruchwyliol y DU, fel a ganlyn: 

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth 
Ail Lawr Tŷ Churchill 
Ffordd Churchill 
Caerdydd, CF10 2HH 
www.ico.gov.uk
029 2067 8400 

Mae gofyn i Gyngor Sir y Fflint brosesu gwybodaeth amdanoch yn unol â gofynion statudol fel y manylir yng Nghanllawiau’r Adran Drafnidiaeth. Byddai peidio â darparu eich data personol yn golygu na allai Cyngor Sir y Fflint brosesu eich cais a’ch cyfranogiad yng Nghynllun Teithio Rhatach Cenedlaethol Cymru